Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoes

hoes

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Ond bu cofio amdano'n busnesu darllen ei llythyr personol hi yn ddifyrrwch iddi am weddill ei hoes.

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Yn sicr, ni fwriadai hi dreulio ei hoes mewn cragen o dŷ fel hwn yn syllu drwy'r ffenestr a magu ieir ur un fath â'i nain.

Yr oedd pawb a fu dan ei gofal yn parhau i fod yn 'blant' iddi ar hyd eu hoes.

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

Ond yr oedd y teitl 'academi' yn cydio'r sefydliadau hyn wrth yr academiau anghydffurfiol a sefydlwyd yn ystod Oes yr Erlid yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a welodd eu hoes aur yn y ddeunawfed ganrif.

Tydi a'n creodd ni; arnat Ti yr ydym yn dibynnu bob eiliad o'n hoes.

Wedi marw ei rhieni, fe aeth Miss Thomas i gadw cartref i'w hewythr i Lanfaircaereinion, yntau hefyd yn cadw siop wlan, ac wedi iddo yntau farw, fe ddaeth Miss Thomas i fyw y rhan olaf o'i hoes yn y Felinheli.

Dymunodd hithau (i) ar i Dduw ddadmer Maelon (ii) gael gwrando ar weddi%au cariadon er mwyn cael dod â chariadon at ei gilydd neu wella'r clwyfau a achosir gan serch diwobrwy (unrequited love) (iii) aros yn ddibriod am weddill ei hoes.

Yn ein hoes ni fe ellir ei anwybyddu: poen a phothelli yng nghwrs rhyw nerf ar un ochr y corff yw'r symptomau gweledig o hyd.

Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.

Roedd Mrs Williams yn enedigol o Drefriw a glynnodd yn ei hardal gydol ei hoes.

Nid yw'r ystadegau'n cynnwys y rhai a fu rywbryd yn ystod eu hoes ynddynt ond a oeddent wedi cefnu.

I genhedlaethau o blant Y Felinheli a anwyd yn y blynyddoedd cynnar wedi'r rhyfel byd cyntaf, Miss Williams Bethel oedd athrawes y plant yn Ysgol Hen, ac felly y parhaodd i gael ei hadnabod ar hyd ei hoes ganddynt.

Mae'r Gymdeithas Wybodaeth yn cynrychioli un o newidiadau mwyaf sylfaenol ein hoes, gan gynnig cyfleoedd enfawr i sefydliadau ac unigolion yng Nghymru.

Gellid dadlau mai dyma'r cyfnod mwyaf allweddol ac effeithiol o ran gosod sylfeini a fydd yn sicrhau fod plant yn gwbl rugl ddwyieithog ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol eu hoes.

Gwelwn y byddai i'r rhai hynny gael eu hennill gan fechgyn parchus a chefnog, y rhai a gawsai addysg dda ym more eu hoes.

Wrth i'r 20fed ganrif ddod i'w therfyn darlledodd BBC Radio Cymru gyfres hanes llafar 16 rhan Hyd Ein Hoes, sef menter unigryw a ail-greodd brofiadaur can mlynedd diwethaf drwy leisiaur bobl a fun byw drwyddynt.

Hynny'n briodol yn ein hoes ddreng Thatcheraidd lle'n dosbarthwyd yn unedau bach preifat hunangynhaliol ar wahan yn hytrach nag y dorf gymdeithasol gydweithredol.

A rhoi'r peth yn nhafodiaith ein hoes ni, y mae gofal am yr amgylchfyd yn gyfrifoldeb sylfaenol a osodwyd arnom gan y Creawdwr.

Cododd Meurig Puw gwr y Wenallt ar ei draed i ddweud wrthynt am gofio'r hanes a chymryd sylw o'r rhybudd, gan fod pethau od iawn yn digwydd yn ein hoes ninnau hefyd.

Mae'n deg tybio y gallai'r neges a yrrai'r tadau Piwritanaidd i'r afael â'r drygau hyn gyda'r Efengyl ar eu tafodau yn awgrymu y dichon fod eu neges hwy'n berthnasol yn ein hoes ninnau.

Os yw hynny'n wir, nid yw diolch yr Esgob Morgan, na diolch Cymru, ronyn llai iddo, oblegid ef oedd arloeswr y gwaith a da gan un o bennaf ysgolheigion ein hoes ni ei alw yn "Gymro mwyaf ei oes." Un arall o gynorthwywyr yr Esgob Morgan oedd Edmwnd Prys.

Ym maes gynaecoleg deallaf fod y tebygrwydd y bydd gwraig yn cael hysterectomi rywbryd yn ystod ei hoes yn dibynnu mwy ar incwm ei gŵr nag ar unrhyw ffactor amlwg arall.

Mae'n debyg fod pob copa walltog ohonom wedi gorfod benthyca ceiniog neu ddwy rywbryd yn ystod ein hoes ar gyfer rhyw ddiben neu'i gilydd.

Credai y dylid gorseddu gobaith mewn emynau, er mwyn eu gwneud yn llais gwirioneddol i brofiad eu hoes: Y mae yr Eglwys Gymreig heddyw yn byw yn helaeth ar emynyddiaeth y gorphenol.

Cyfeillachau tebyg i frawdoliaethau gweinidogion ein hoes ni oedd y rhain a'u maes llafur oedd y Beibl.

Dim ond tua diwedd eu hoes hwy y dechreuodd ymwybyddiaeth o genedligrwydd Cymru egino, a hynny yn bennaf ymhlith alltudion, y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion yn Llundain.

Roedd y plant wedi'u geni yn yr Almaen, roedd y gwragedd wedi byw yno ar hyd eu hoes.

Unwaith eto byddai merched ifanc iawn yn ymuno â lleiandai ac roedd disgwyl iddynt addo bod yn dlawd, yn bur ac yn ufudd am weddill eu hoes cyn eu bod yn un ar bymtheg oed.

Yn wir, mae'n rhaid eu dyfrhau'n drylwyr yn ystod dwy flynedd gyntaf eu hoes os yw'r tywydd yn sych.

Mae'r tân yn cael ergyd drom ar Bethan yr wythnos hon, ac fe fydd yn effeithio arni am weddill ei hoes, ac i Karen mae'r ty a losgwyd yn adlewyrchu y gwacter yn ei bywyd ar hyn o bryd.

Mae gallu ffermwr i gofio hanes anifeiliaid unigol, megis faint o wyn mae dafad wedi eu cael yn ystod hoes, yn glodfawr.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.