Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoffter

hoffter

Byddaf yn meddwl weithiau tybed a fyddai Dic wedi dangos rhyw hoffter tuag ataf i petai Mam heb ddangos mor eglur ac mor aml iddo nad oeddwn i'n deilwng o serch neb.

'Mi wyddon ni'n dda am eich hoffter o ganeris, eich mawrhydi,' meddai Mini.

Nid oherwydd unrhyw hoffter ohonof fi, mi wyddwn, ond am fy mod yn ffordd ymwared iddo ar y funud.

Effallai y caiff ran fel Robin Hood rhyw dro, a chael cyfuno ei hoffter o actio a dringo coed!

Un esboniad ar y wedd hon ar y nofel (ar wahan i ysgogiad cychwynnol amodau cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol, a ofynnai am nofel yn ymdrin a thair cenhedlaeth) yw hoffter y Cymry o hal achau, yr ymhyfrydu mewn tylwyth mawr dyrys.

Gwelir ynddo, bid sicr, rai pethau sy'n gyffredin i modernismo Sbaen yn yr un blynyddoedd: ymdeimlad newydd a harddwch geiriau, hoffter at grefft gan gynnwys crefft y gynghanedd, yr un synwyrusrwydd hefyd.

Yn cydredeg â'n hoffter ni o nwyddau tramor mae estroniaid y byd yn ffafrio eu cynnyrch eu hunain neu rai Japan.

Trachwant am dderbyn rhoddion a'i cadwai yno, medd Sion, ac nid ei hoffter o'r abad.

Mae na doreth o emosiynau yn y straeon bach cynnes yma hefyd gyda nifer o'r cymeriadau yn ennyn hoffter.

Pan ofynnwyd i Menem unwaith beth oedd ei ofn mwyaf, atebodd: 'Duw - a Zulema.' Cafodd hoffter y ddau o fywyd bras ei feirniadu'n llym droeon.

Dangosai, meddai'r gwrthwynebwyr, wir ysbryd y mudiad, sef ei hoffter o ddulliau cudd, cyfrinachol o weithredu, a'i duedd Jesuitaidd.

Yn y cyfnod hwn daeth Hugh Evans i hoffter mawr o seryddiaeth, a daliodd i astudio'r wyddor hon ar hyd ei oes.

Gwir fod D J yn rhoi o helaethrwydd ei gydymdeimlad a'i hoffter o'r natur ddynol ym mhob cyflwr, a Lingen yn dadansoddi'n oer heb flewyn ar ei dafod.