Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hoffwn

hoffwn

"Fe hoffwn i weld trafodaeth yn digwydd ym Methesda ar y pwnc hwn," meddai Elinor Ellis Williams o Stryd Grey.

Cyn tewi, hoffwn sôn am un Americanwr arall a oedd yn seren ddisglair yn ei ddydd ac sy'n bwnc trafod o hyd: John Fitzgerald Kennedy.

Hoffwn ddangos un pwynt pwysig sy'n peri annifyrrwch.

Fe hoffwn i bwysleisio fod y sefyllfa yno yn ddrwg iawn.

Hoffwn yn arbennig gyfeirio at yr hyn a ddywed yr Athro ar ddechrau ei lith, gan y teimlaf fod ei eiriau'n berthnasol iawn i argyfwng yr iaith heddiw.

A dweud y gwir, fe hoffwn i weld rhai o'r Coraniaid yma, oherwydd dim ond darllen amdanyn nhw yr ydw i wedi ei wneud.

Hoffwn pe bai John Roberts Wiliams wedi gallu dweud wrthym.

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl.

Fe hoffwn i ddiolch i Cymorth i Fenywod am fod mor gynnes a chymwynasgar."

Hoffwn ddiolch i'r gweinidogion, y Parch.

Hoffwn fynegi ein diolch i'r Parchedig Billy Ind, Esgob Grantham, am ei ymdrechion ar ein rhan a hefyd i Mr Wilford, Archaeolegydd Lincoln, am ei gefnogaeth.

Gan fod delwedd yn rhan bwysig o raglenni o'r fath hoffwn nodi fod y set yn un effeithiol.

'prun ai yr hoffwn ni hynny ai peidio, gwyddoniaeth sy'n rheoli'r hyn sy'n digwydd ".

Felly, er mwyn ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn, hoffwn ddod â'r cyflwyniad i fwcwl drwy gyfeirio at rai prosiectau sydd ar waith neu ar y gweill gennym fel Menter yng Nghwm Gwendraeth.

Hoffwn gydnabod ein dyled i weledigaeth a medrusrwydd ein Cyfarwyddwr, Siôn Meredith ac i'r Swyddog Cyswllt deinamig, Andrea Jones, am eu hymroddiad cadarn i'r mudiad.

Yr hyn hoffwn i ei wneud yn awr yw gwahodd yr enillydd a'i gi drosodd yma i gymryd rhan mewn rasus cwn defaid.

Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.

ond yn gyntaf fe hoffwn i fwyta rhywbeth os oes bwrdd yn rhydd.

Hoffwn weld Cyngor Wrecsam yn galw pobl y Rhos, Undeb y Glowyr, ac Undebau'r cylch at ei gilydd i fynd ati i achub y Stwit.

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Wn i ddim...., na, hoffwn i ddim bod yn lle Marc ac Anita heno." Am ryw reswm, dechreuodd y dagrau lifo eto wrth iddi ddweud hynny.

Er bod yr Eisteddfod i weld yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn a bod Dolig bron a bod yr un mor agos mi hoffwn gychwyn drwy edrych yn ôl ar yr wythnos boeth honno yn Awst a diolch i bawb fu o gymorth i'w gwneud hi yn wythnos mor lwyddiannus.

Os caf ddychwelyd am funud i sôn am ddisgrifiadau gwyddonaidd Kate Roberts o fywyd fel yr oedd yn y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon, hoffwn nodi ymhellach fod llawer o arferion ac o feddyliau yn ei gwaith hi sydd bellach wedi diflannu; ond y mae'n bwysig ein bod ni'n eu hadnabod - yn gyntaf, er eu mwyn eu hunain, hynny yw, oherwydd eu bod; yn ail, er mwyn gallu adnabod mai un o themâu cyson Kate Roberts yw newid: mae hi'n dweud yn rhywle nad oes dim byd oll mor gyson â newid; yn drydydd, mae'r arferion a'r meddyliau hyn yn dweud cyfrolau am agwedd meddwl ei chymeriadau - ac os na ddown i werthfawrogi'u hagwedd hwy at fywyd fe gollwn ran dda o'r rhin a berthyn i'r llenyddiaeth.

Serch hynny, ni hoffwn i afael ynddo, hyd yn oed gyda maneg gau am fy llaw!

Hoffwn feddwl amdanynt yn magu perspectif eang ar fyd ac ar fywyd, perspectif wedi ei seilio ar werthoedd a phrofiadau eu cymuned.

Fe hoffwn awgrymu hefyd fod y siliwm hir sengl yn gweithredu fel derbynnydd dirgryniad a bod yr aparatws basal arbennig yn gweityhredu, naill ai i gynnal y siliwm , neu i drawsyrru negeseuon pan fo'r siliwm yn dirgrynu.

Ond, fe gredaf i fod stôr enfawr o straeon gwerin cyfoes i'w cael yma yng Nghymru, ac fe hoffwn eu clywed gennych chi felly, talwch sylw manwl i'r stori nesaf fydd yn crwydro eich ardal chi, efallai yn sôn am alsatians yn rhewgell y bwyty Sineaidd, neu effaith y pwerdy niwcliar ar y tywydd, neu hwyrach am anifail mawr rheibus yn lladd defaid.

Difaterwch Y drydedd wedd yr hoffwn ei nodi yw DIFATERWCH.

I orffen, hoffwn ymdrin â Llythur i'r Cymru Cariadus o safbwynt gramadegol.

"Mi hoffwn i ofyn rhywbeth iddo fo." "Mi alwaf arno," meddai Rees.

Hoffwn weld 'Noson o Siarad Cyhoeddus' yn ymddangos ar raglen pob clwb bob blwyddyn pe ond am y gwerth addysgiadol sydd iddi.

Fe fyddwn ni'n cytuno â'r casgliadau a wnaeth yn yr erthygl i raddau pell iawn ond fe hoffwn ychwanegu rhai pwyntiau.

"Tyrd, Sam," meddwn i, "mi hoffwn fod yn ol yn y swyddfa cyn i Matthew Owen gyrraedd yno." "Ai ai, syr.

Fe hoffwn drafod mwy o'r straeon hyn, yn arbennig y straeon gwaedlyd, arswydus sydd yn cael eu hadrodd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau - pob un gyda neges gymdeithasol gref ond nid yw gofod yn caniata/ u.

Iaith ein cartref ydwyt hefyd, Iaith aelwydydd Cymru lân, Yr wyt ti'n gwresogi bywyd Mewn diareb bêr a chân; Hoffwn di - wyt athronyddol - Ond wyt fwy na hyn i ni: Wyt in' calon yn naturiol, Caniad cartref yw dy si.

Hoffwn ar ran PDAG ddiolch i bawb a dderbyniodd ein gwahoddiad i ymuno yn y seminar ac a gyfrannodd ymhob ffordd at lwyddiant y diwrnod.

Gwelais grwp yn heidio ar fryn bach - sgiais atynt a holi'r hyfforddwr pa le'r aeth fy un i - gan yr hoffwn innau ei ddilyn?

Hoffwn ddiolch i nifer o gyfeillion a sbardunodd fy niddordeb yn y fordaith dan hwyliau i Awstralia ac yn arbennig.

Hoffwn i chi ddod gyda mi ar ochor y mynydd rhyw filltir oddi yma.

Hoffwn ei arddull gartrefol, ac aeth i drafferth i ysgrifennu nodiadau ar bapur i mi.

Mi hoffwn i fedru gofyn iti ddod acw ond dydi Megan ddim yn rhy dda'r dyddiau hyn, fel gwyddost ti." "Doeddwn i ddim yn disgwl y fath beth." "Fydd hi ddim mor hawdd dod i dy weld ti yn Lloegr ond mi fydda i'n hapusach o wybod dy fod ti'n câl gofal a thitha wedi bod yn cwyno cymaint yn ddiweddar.

Hoffwn gywiro un peth pwysig yn yr erthygl: nid Jane Evans a gofnododd hanes bywyd Betsi Cadwaladr, ond Jane Williams, Ysgafell.

Mae amryw o hen gymeriadau Pentraeth yr hoffwn son amdanynt, ond dim amser i ragor, felly ffarweliaf am y tro.

ARHOLIADAU: Ar ddiwedd yr arholiadau TGAU hoffwn ddymuno'n dda i'r bobl ieuanc a gobeithio y cant ganlyniadau wrth eu bodd.

Fe hoffwn i gael fy mhump ar yr un sy'n dwyn fy mwyd i.

Ond ni hoffwn o gwbl roi'r syniad mai hon oedd y gyntaf.

Mi hoffwn berswadio Snowt hefyd i sgwennu amdano fo i'r papura "Saesneg".

Dwi'n dal heb ddeall y teitl ond wedi i mi orfodi fy hun i gwblhau'r llyfr, hoffwn weld yr awdures yn cael ei dedfrydu i gyfnod hir o solitary confinement mewn lle y gall ddatrys ystyr y teitl a pherffeithio ei harddull ysgrifennu digrif.

Hoffwn gydnabod ein gwerthfawrogiad i'n noddwyr hael, Y Swyddfa Gymreig, Banc Barclays, Cymdeithas Adeiladu'r Alliance and Leicester a chymorth ymarferol Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Theledu AGENDA.

Hoffwn annog pawb i ysgrifennu at D^wr Cymru yn mynegi eu gwrthwynebiad.