Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hofnau

hofnau

Yn ei ffordd ddi-drais, dieiriau, dysgodd hi i ffrwyno ei hofnau : gosododd ei stamp ei hun ar ei chymeriad ac ar eu ffordd o fyw.

Poenusach i mi yw darllen llyfrau nad yw eu cymeriadau byth yn gwisgo nac yn bwyta Y gwir amdani yw bod brethynnau a thorthau ynddynt eu hunain bwysig o fyw pawb, ac at hynny, ac yn bwysicach na hynny, mewn stori%au y maent yn arwyddion - ond yn wir yn symbolau - o gyraeddiadau pobl, eu hawydd, eu hofnau, eu huchelgais.

Un o'n hofnau mwyaf ni ydi'r ofn o wneud ffyliaid ohonom ein hunain.

Ond, wrth i ni eistedd i ddisgwyl galwad i fynd i'r awyren, gwireddwyd ei hofnau mwyaf.

Wrth ystyried y pethau hyn, cododd baich mawr ar fy nghalon dros y bobl hyn - baich a wthiodd y chwilfrydedd arwynebol, a'm hofnau naturiol o'r neilltu.

Darllenodd y gerdd yn y cyfarfod, yn oedi adegau wrth iddi ail greu ei theimladau a'i hofnau.

Goddiweddwyd y Lluoedd Arfog gan ymdeimlad o anobaith oherwydd eu hofnau ynglŷn â'r dyfodol.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.