Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hogiau

hogiau

Roedd yr hogiau wedi rhoi digon o goed ar y tân, y fflamau yn saethu i'r awyr ac yn taflu cysgodion digri o gwmpas.

Wedi i'r trên fynd am ychydig filltiroedd, yn sydyn, teimlais bwysau ar fy ysgwydd dde; roedd un o hogiau'r eroplens, yr un â'r cetyn, ar fy ysgwydd dde ac heb gymaint ag '...' wedi gwneud clustog ohoni.

Roedd yr hogiau wrth y bwrdd yn dechrau anesmwytho a diflasu, braidd.

Aeth yn ei blaen i lofft yr hogiau, rhag ofn.

Ym mhen tipyn bach ar ôl hyn, yr oedd "yr hogiau% (yr efrydwyr am y Weinidogaeth felly, i ddweud gair o brofiad wrth Fwrdd y Cymun yn y Cyfarfod Misol, a'r seraff duwiol, y Parchedig Gruffydd Parry y Borth Borthygest felly) yn gwrando ar ein tipyn "Profiadau%, Ni chofiaf y nesaf peth i ddim a ddywedais.

mam yn ateb eto, "Ar y silff ganol efo crysau'r hogiau Charles".

Roedd angen hogiau i iro'r peiriant hwn.

Nid oedd yn anodd i hogiau'r Nant sleifio adre gan fod Llwybr y Garreg Wen y tu ôl i domennydd uchel o rwbel, ac os am ddal troseddwr byddai'n rhaid i stiward fynd i ben un ohonynt i gadw gwyliadwriaeth.

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

Nad anghofiwn chwaith un arall o hogiau'r Penmaen sydd wedi ymddeol yn ddiweddar.

Aeth amryw o'r hogiau i lawr yno.

Ar y daith adref ar ôl chwarae ym Manceinion roedd yn draddodiad rhoi triniaeth arbennig i hogiau newydd y flwyddyn gyntaf Mae eli o'r enw 'Sloane's Liniment' i'w gael ar gyfer poenau yn y cyhyrau sy'n creu gwres mawr ar ba ran bynnag o'r corff y'i rhoddir.

O fewn dyddiau fe ddeuthum i adnabod nifer o hogiau drwy weithgareddau'r clwb rygbi ac mae amryw yn dal i fod yn ffrindiau agos hyd heddiw.

QED fel byddem nir hogiau yn ei ddweud.

Bwytewch y bacwn rwan, hogiau: os rhedwn ni allan o fwyd cawn fwyta'r cogydd." Ynghanol y chwerthin, llithrais i mewn i gael gair â'r bachgen oedd yn paratoi'r bwyd, roeddwn yn gweld posibilrwydd o ' tribal feud' yn mynd ymlaen tra byddem yno.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Ond roedd yr hogiau'n effro.

Ar ôl y gêm, byddai'n rhaid mynd â'r hogiau i ble bynnag yr oeddent am dreulio'r noson.

Fe'u huriai i ymwelwyr yn yr haf, ond ni yr hogiau lleol fynddai'n mynd a nhw ar y dwr ddechrau'r tymor ermwyn i'w coed chwyddo - eu 'stanshio' nhw ys dywedem.

Roedd un o hogiau'r De wedi bod yn ddigon hyf i lygadu un o gennod ein hysgol ni.

Dechreuodd ef ei yrfa ar y môr, fel llawer o hogiau ifainc Llyn, mewn llong fechan o'r enw Fishguard Lass ac yntau'n bedair ar ddeg oed a chyda'r Capten a'r Mêt yn gwneud nifer y criw yn dri.

"Ond hogiau bach, meddyliwch am y genethod yn gorfod rhannu llofft efo hi !

O'm blaen yn awr, Llwybr Afon Vallember tua'r dyffryn cul, mor gul nes bod hogiau'r hafod wedi medru hongian baner ddu hir hanner y ffordd rhwng ei ddau fur, tua mil o droedfeddi uwchben yr afon.

Roedd Modryb yn ei gwely yn darllen Woman's Weekly fel brenhines, Gwenan a'r hogiau'n cysgu a Dad yn edrych ar y newyddion hwyr ar y teledu.

Cetyn oedd gan un o hogiau'r eroplêns ac o dro i dro, cawn olwg ar ddwy ferch y tonnau pan ddigwyddai toriad yn y cwmwl nicotinaidd.

Pan welodd rhai o'r hogiau'r lle am y tro cyntaf, ymateb un Cofi oedd:

"Ydy, Elystan." "Mi ddaw'r hogiau adre' o'r Deheubarth, adre o'r rhyfel gyda hyn efo byddin y Tywysog, Gwgon." "Ia, yn fuddugoliaethus." "Ac heb ddim i'w wneud am nad oes ar y Tywysog eisiau brwydro 'chwaneg yn erbyn ei hanner brawd yng nghyfraith, brenin Lloegr." "Fedar y sawl a aned i ryfal ddim diodda' segura.

Myn coblyn," meddai'r meddyg Americanaidd, mae Dr Livingstone wedi cyrraedd, hogiau." O'r crwyn blewog daeth llaw mewn maneg felen.

Ar ôl bod i lawr yn y Mount Vernon am awr neu ddwy, byddai rhai o'r hogiau eisiau mynd i flasu bywyd Lerpwl ar nos Sadwrn.

Fel arfer, roedd peth ofn ar y myfyrwyr wrth feddwl am y lle: hogiau'r dre oeddynt - o Buganda.

Fe ddaeth ar draws y llwybr cyn bod crafangau y Biwrtianiaeth lem wedi gollwng ei gafael ar y gymdeithas yr oedd hogiau deg oed yn tyfu i fyny ynddi.

Fu ganddi hi erioed 'gariad' fel y bu gan y rhan fwyaf ohonom ni yn ein tro; ac fe glywais un o'r hogiau'n dweud rywdro, pan oedd rhywun yn ei herian.

Roedd un o hogiau Caernarfon wedi mynd mor gyfeillgar ac un o'r merched yma fel y mentrodd roi ei fraich amdani.

Ac 'rwyf wedi meddwl llawer beth yn union a ddylanwadodd arnaf fel cynifer o hogiau Cymru, a hogiau Llyn ac Eifionydd yn arbennig.

Gan fod tyrfa fawr yn dod o Lansdowne Road, yn aml byddai rhai o'r hogiau'n cael eu gwasgaru.

'Roedd yr hogiau yn y capel 'rŵan yn disgwyl ei weld meddyliodd, a heb rybudd o gwbl dechreuodd y dagrau lifo.

Pan fydd hogiau Slip yn teithion bell i chwarae gig, mi fyddan nhw'n chwarae gêm i'w cadw nhw allan o ddrygioni.

Gwelai hogiau'r sied, eu capiau i lawr yn isel am eu pennau, a golwg denau, lwyd arnynt, yn sgythru yn yr oerni wrth sefyll yn nrysau'r sied yn disgwyl caniad.

Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.

Ni theithiai Hamilton lawer ar y bysys ac eithrio yn ystod y rhyfel, hwyrach, ond 'roedd ganddo ddiddordeb mawr yn y bysys a'r hogiau.

A grwp o hogiau ifanc o gylch Llangernyw.

Rwy'n siwr fod wynebau du'r hogiau wedi mynd yn wyn o dan y Tân ar eiriau'r hen fachgen.

Rhedai i fyny'r bonciau ar ôl yr hogiau a lluchio'i chorff ar y gwellt nes bod cwmpas ei gwisg laes yn un llanast wrth ei thraed.

Ar ôl y gêm, byddai'r hogiau'n mynd allan i'r clybiau nos.

Hogiau'r mor, yn ddi-waith ers blynyddoedd, oed y ddau ac yn treulio'u dyddiau bellach yn chwarae dominos a sipian cwrw yn nhafarnau Glan Morfa.

Wrth ei dwyn i gof wedi i mi roi yr Herald i lawr ceisiais gofio pwy oedd yr hogiau ar y traeth.

Dechreuodd yr hogiau dynnu ar y gyrrwr a hwnnw'n amlwg yn gwylltio'n gacwn.

Roedd un o'r hogiau wedi anghofio yn union lle'r oedd i gyfarfod y gweddill ohonom.

Fel arfer, byddai bws fach wedi ei threfnu i ddod â'r hogiau draw.

Ifan Parry, Eil O Man, dau o'i hogiau mewn ffrae, ac un yn dweud wrth y llall 'y mwnci diawl' aros meddai Ifan Parry 'os mwnci yw dy frawd, mwnci wyt titha ac wn i ddim o ble daeth y diawlyn os na ddaeth o ochor dy fam.

Nid oedd yr hogiau yn y clwb, ac mae'n rhaid dweud fod yr unigolyn yma braidd yn feddw erbyn hyn.

Ambell dro byddai un o'r hogiau'n fyr o arian ac yn gofyn iddi newid siec.

Erbyn hyn roedd yr hogiau wedi dechrau blino ar y lol yma ac fe daflwyd amheuon ar gyfreithlondeb priodas rhieni'r gyrrwr, ymysg rhegfeydd eraill.

Fe gâi'r hogiau fynd i ymdrochi i Lyn Manod a Llyn Dþr oer, ond yr unig ddþr y byddem ni'r merched yn ei weld, ar wahân i ddþr tap ac afon fudur, oedd ehangder brawychus o fôr Morfa Bychan ryw ddwywaith y flwyddyn.

Gofynnodd i geidwad un o'r clybiau a fuasai'n cael mynd i mewn i edrych a oedd yr hogiau eraill yno.

Yn hytrach nag i ni fynd i Gaernarfon, credaf ei bod yn well gan hogiau Caernarfon ddod atom ni er mwyn iddynt gael penwythnos yn Lerpwl.

Rhyw fagu llwynog oedd hynny - datgelu gwybodaeth i arall, ond byddai hogiau gorsaf Caernarfon yn barod iawn i'm dysgu, a dysgais lawer oddi wrthynt.