Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hogyn

hogyn

Dau hogyn bach a chi du a gwyn yn pysgota ...

Ni welir mwy yr 'hogyn gyrru'r wêdd', ac ni chlywir chwibanogl y dyrnwr mawr.

Yn sydyn trodd y gôl-geidwad dewr yn hogyn bach ofnus iawn.

Er pan oeddwn yn hogyn clywais drigolion Uwchaled yn sôn yn aml amdano, a hynny gyda pharch ac anwyldeb.

Nid wyf am wadu am foment nad wyf wedi bod yn hoff iawn o gerddoriaeth ers pan oeddwn yn hogyn.

Yr olaf o bump ohonom oedd bachgen o'r enw Joni Bach Castle Hall, hogyn bychan, tenau iawn.

Fo'n hogyn da!

Yno y bwriai ein hogyn-feirdd a'n llenorion eu prentisiaeth.

"A'r hogyn bach wedi deud dim byd o'i le!" Y gwragedd!

'Sut gawn ni afael yn yr hogyn Fitter, tybed?'

Fel y gweddill o'm cyfoedion byddwn yn mynd i'r Seiat ar nos Fawrth, a chofiaf yn dda am y Parch JH Pugh y Gweinidog yn fy nghynghori a'm siarsio i fod yn hogyn da.

Doedd yna ddim ysbrydion ym Mlaenau Ffestiniog pan oeddwn i yn hogyn yn y tridegau - dim bwganod go iawn.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Ond mi ydw i'n cofio'r lle'n berffaith rşan, o g-gof yr hogyn wnes i fwydo arno fo 'chydig yn ol: roedd o wedi bod yno g-gyda'i rieni.

"Dacw fo ylwch!" meddai rhyw gwbyn o hogyn.

Buont yn byw yn Nulyn am bedair blynedd, a symud wedyn i Swydd Wicklow, lle'r oedd o wedi bod yn gweithio pan oedd o'n hogyn ifanc.

' Fe allwch ddirnad yr effaith gafodd peth felly ar hogyn o Garreg-lefn ...fe fyddwn yn rhan o Tseina mewn ychydig flynyddoedd'.

Pan oedd yn hogyn, byddai'n cynorthwyo yn y stablau a'r tafarndai yn y dref, yn rhedeg ar neges i hwn a'r llall ac yn glanhau esgidiau yn yr Eagles, oedd yn dafarn ar lwybr y goets fawr rhwng Llundain a Chaergybi bryd hynny.

Clywais ewythr o gipar yn dweud fel y bu i ryw hogyn a weithiai gydag o ddal ffwlbart mewn magl gwningod.

hogyn o 'r dref neu beidio beidio doedd o ddim am gael ei guro.

Gyda lwc, mi fyddai adra ymhen pythefnos, efo'r dilead am fod yn hogyn da.

WALI: Fydd yr hogyn isie gwybod.

'Mi wyt ti'n hogyn da, William.

Does wybod i ba gyfeiriad yr aiff yr hogyn amryddawn hwn yn y dyfodol.

'Mi lladdith Mam fi,' meddai'r hogyn ysgol yn grynedig.

Dwi'n cofio hogyn o Benmaenmawr yn priodi hogan o Lanfairfechan, ac ewyrth iddo'n gofyn: 'Ble rwyt ti am fyw, Bob bach?'

Er iddo gael cansen yn aml, doedd dim rhyfedd mai fo oedd yr hogyn mwyaf poblogaidd yn y lle.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Atebwyd ei gnoc gan hogyn o brentis tua phymtheg oed â chwpan yn ei law.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Clywais Mam yn dweud lawer gwaith fel y byddai Hannah Jones, a oedd yn byw drws nesa', yn gweiddi arni: 'Jane, well i chi fynd i nol yr hogyn bach 'na.

Fe adawodd 'i gwr, yr hogyn ffeindia' wisgodd esgid, ac fe aeth i fyw i'r hen Sowth 'na.

"Ond 'does yr un ohonyn nhw wedi rhoi'r fath boen i mi â Sioned, cofiwch." "Sut mae hi a'i gŵr, a'r hogyn bach?"

Pabyddes oedd ei fam ac ai Alun i'r offeren gyda hi; llongwr oedd y tad a Methodist Calfinaidd ac ai'r hogyn i'r capel gydag ef pan fyddai adref o'r mor.

hogyn newydd yn 'r ysgol, meddai wil wil yn byw yn y tyddyn.

Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.

Cyn pen dim o dro, gwelwyd yr hogyn bach yn cymryd rhan mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus ac yn gwefreiddio'r dorf.

Chwarae teg iddi, os oedd Huw, yr unig hogyn yn ein dosbarth yn bresennol, ni fyddai hyn yn disgywdd.

Nhw ddaru ofyn imi roi hysbysiad yn Y Gwyliwr.' A chwarddodd, gan gerdded o amgylch yr ystafell fel hogyn wrth ei fodd.

Hen hogyn bach iawn ydi Owen." "Ia," meddai Jane Gruffydd.

Bu cryn bwyso arnaf i ddysgu canu'r piano pan oeddwn yn hogyn, ond yn fy ffolineb mi wrthwynebais, er mawr siom imi'n ddiweddarach.

Mi fyddai Tom, yr hogyn hyna, wrth roi'i gap ar yr hoel, er yn ddyn tal, yn codi ar flaenau'i draed heb fod yn rhaid iddo.

Trodd at ei chyfeillion gan alw, 'Mae'r soldiwr yma'n mynd i Scotland.' Ar hyn, daeth hogyn ychydig yn hŷn na mi i gyfeiriad y ferch a minnau.

Wrth i mi ddod o Woolworths Bangor digwyddais gyfarfod a Huw, yr unig hogyn yn ein dosbarth Ysgol Sul erstalwm.

Tra roedd yn mynd drwy'r enwau, daeth ar draws enw hogyn o Garneddau, a daeth o hyd i'w fedd.

Hogyn bach eiddil, tawel, bonheddig ac yn edrych yn ifanc iawn.

A 'doedd ryfedd yn y byd i wefr o falchder redeg trwy wythiennau hogyn bach deg oed pan glywodd o fod ei frawd mawr am wneud berfa iddo fo.

Mae'r tâp newydd ddechrau troi, a'r gwahoddiad-orchymyn hwn ar ddechrau'r cyfweliad yn rhagymadrodd i stori fach am y modd y cymerodd Wil Sam yn erbyn nionod unwaith ac am byth yn hogyn bach, pan stwffiodd ei frawd - yr arlunydd a'r hanesydd celf erbyn hyn, Elis Gwyn - slotsyn i'w geg.

Mae Nedw yn cael gwneud cymaint o bethau y carai pob llefnyn o hogyn deg neu ddeuddeg oed eu gwneud, o chwarae triwant yn y tyno ar bnawn o haf hyd at golli ei ben a'i galon i Jinny Williams am ddau o'r gloch y bore wrth yr Hen Ffynnon.

Dyna hogyn da." Roedd hyn yn ormod i Jeremeia Hughes.

Nid oeddwn, ac nid wyf hyd heddiw yn hoffi cig bras a byddai Mam yn torri'r braster i ffwrdd pan oeddwn yn hogyn bach.

Ymddengys yntau yn hen hogyn iawn ar y cychwyn cyntaf.

Pan fyddai hogyn wedi cael ei drwytho yn "Rhodd Mam" ac wedyn, wedi bod yn hogyn drwg byddai gwersi Mrs Wilias yn siwr o ddod yn ôl i'w feddwl yn ddiarwybod iddo, bron ac yn dweud wrtho: "Tro yn dy ôl".

Cofiaf yn dda Wmffra, fy mrawd, yn hogyn tua deg oed, yn trechu pawb, hen ac ifanc, hefo'i stori fer.

WALI: B'le mae'r hogyn Gari 'ne?

Yr hyn sy'n rhyfeddol ynglŷn â'r digwyddiad hwn yw fod yr hogyn wedi gallu gafael ynddo o gwbl heb iddo yntau afael yn yr hogyn.

"Os na fyddi di'n hogyn da, mi gei di fynd i'r wyrcws." Dyna fyddai bygythiad Mam wrthyf lawer gwaith wedi i mi ei digio.

Tyrd, rho hi am dy arddwrn, mi gei honna am fod yn hogyn da.'

Derbyniais anrheg ganddi a dymuniadau da a chyngor i fod yn "hogyn da%.

Wnaiff dim ddigwydd i ti os byddi di'n hogyn da.' Aeth allan gan gau'r drws ar ei ôl.

Biti na fyddai cymorth dysgu fel hwn ar gael pan oeddwn i'n hogyn.