Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

holau

holau

Yna, agorwyd drws mawr derw a hyrddiwyd y ddau i mewn i ryw ystafell ym mhen ucha'r castell, a bolltio'r drws ar eu holau.

Wedi dianc o'r car, cafodd y bechgyn egni newydd o rywle a dechrau rhedeg yn wyllt i bob cyfeiriad tra llusgai Carol ar eu holau'n wan fel balŵn wythnos wedi'r parti.

Evan Tom Jones a esboniodd inni'r ffenomenon a'n gyrasai yn ein holau drwy'r twnnel y noson cynt, yn gyflymach nag yr aethom iddo.

Rhannodd y Kloteniaid eu cawl a'u tegell a mi a'm rhybuddio fod cymaint trwch anarferol o eira newydd ansefydlog ar grib uchaf Piz Lischana nes bod y ddau dad wedi gorfod troi yn eu holau y bore hwnnw cyn cyrraedd y copa: yn sicr nid oedd y mynydd mewn cyflwr priodol i alleinganger.

Pan ddaethom yn ein holau i Vasto, yr oedd golwg druenus ar y villa.

Ond yn eu holau y maen nhw.

Tyrd,' meddai Abdwl unwaith eto, ac aeth Glyn ar eu holau gan ddringo i gefn Land Rover a oedd yn disgwyl wrth lidiart y cae glanio.

Ni fydd y meini byth yn gadael y rhostir ond am ychydig funudau yn unig ac yna mi fyddant yn rhuthro yn eu holau yn wyllt er mwyn gorwedd ar y trysor am gan mlynedd arall." "Wel wir, wyddwn i erioed mo hynny o'r blaen," meddai'r asyn.

Wedi awr yn unig o ffilmio, daeth y milwyr ar ein holau a'n gwthio i gyfeiriad y bws.

Byddai, mi fyddai'r plant yn tyfu'n gryf, yn cael eu hysgol yn rhad ac am ddim, ac yng ngolau'r addysg rhad hwnnw'n tyrru'n eu holau i chwyddo cyfoeth, aelodaeth, a dylanwad y capel.

Pan gyrhaeddodd y ddau yn eu holau roedd mam Alun yn dal i eistedd wrth y tân.

Pan ddaethant yn eu holau o'r diwedd i dawelwch cymharol ei swyddfa, daeth dyn ifanc o'r ystafell nesaf a sefyll yn y ddôr â llond ei freichiau o lyfrau cownt 'Lisa, oes modd i mi gael gair .

Fydd arthreitus ddim yn medru cadw pobl ddieithr allan wedyn ac mae yna dwnel newydd ac ati er mwyn i'r Romans fedru dwad yn eu holau reit handi.

Ac y mae gennyf gof sicr am gangers lein-gangen Aberteifi yn cerdded ar hyd y lein â morthwyl hirgoes yn eu llaw i yrru'r allweddau disberod yn eu holau.