Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

honiadau

honiadau

Yr oedd y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Chwefror yn un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd yn fuan wedi dechrau'r flwyddyn i wadu honiadau'r Dirprwywyr a'u tystion.

Mae Gweinidog Nawdd Cymdeithasol yr Wrthblaid, David Willetts, yn gwadu honiadau Llafur y byddai'r pensiynwyr tlotaf yn dioddef.

Cytunodd cadeirydd y tribiwnlys y dylai gwrandawiad llawn gael ei gynnal i honiadau bod y fyddin yn gwahaniaethu'n annheg ar sail hil.

Er bod dau o feirdd Arfon, sef Dafydd Ddu Eryri a Hywel o Eryri, wedi'u gwahodd i'r orsedd gyntaf, ni ddaethant ar ei chyfyl am eu bod yn amau honiadau Iolo Morganwg ynglŷn â hynafiaeth y mudiad.

mae'r ymchwiliad i honiadau o drefnu canlyniadau gemau criced wedii ohirio am ddeuddydd gan y Barnwr Edwin King.

Teimlwyd bod angen ymchwil i honiadau athrawon fod newid agwedd yn digwydd ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau â chyfathrebu'n ganolog iddynt.

Mae'n amlwg na chafodd Iolo Morganwg lawer o drafferth i gael cnewyllyn sylweddol o aelodau'r Gwyneddigion i dderbyn ei honiadau di- sail.

A buan y daeth y brotest yn erbyn honiadau totalitaraidd y method gwyddonol.

Os yw'r cyhoedd yn cynilo yn hytrach na gwario mewn cyfnod o chwyddiant mae nifer o honiadau ynglŷn â gwariant personol yn debyg o fod yn sigledig.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, yr Arglwydd Robertson, wedi wfftio honiadau bod cynlluniau'r Undeb Ewropeaidd i greu eu llu milwrol eu hun yn tanseilio dyletswyddau a dylanwad NATO.

Pwysig hefyd yw sylwi ar honiadau Tsieciaid a Chroatiaid Awstria (fel y Magyariaid - ac Albanwyr Prydain) bod gan eu hen deyrnasoedd nodweddion gwladwriaethol o hyd, er na chymerid yr hawliau hyn o ddifrif gan yr awdurdodau.

Mae'n rhaid diolch hefyd i Gruff Rhys o'r Super Furries. Beth bynnag ydym ni'n ei feddwl am ei honiadau nad yw Mwng yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - sy'n gwbwl anghywir gan ein bod yn chwarae caneuon oddi arni yn gyson - roedd hi'n wych i'w weld ar y llwyfan yn derbyn dwy wobr ar ran y Super Furry Animals.

Mae'n bwysig ychwanegu fod gŵr fel Richard Prise yn cydnabod fod gan Polydore Vergil sail i nifer o'i honiadau.

Cefnogwch eich honiadau/ gosodiadau/ sylwadau cyffredinol a thystiolaeth e.e.

Fydd yna ddim cosb i unrhyw un o chwaraewyr De Affrica yn dilyn honiadau gan Loegr o chwarae brwnt gan y tramorwyr.

Mae'n ddiddorol fod nifer o'r beirdd Cymraeg a farwnadodd eu plant eu hunain yn dweud eu bod yn methu canu bellach, fel petaent yn uniaethu'r plant â'u hawen (ac eto mae'u cerddi'n gwrthddweud eu honiadau!).

Wyddai neb am y berthynas hon ond Nansi'r Nant.' Gwnaed honiadau mwy rhyfeddol fyth yn yr ysgrif honno, ac fe sbardunwyd John Gwilym Jones, am yr unig dro yn ei fywyd, meddai, i ysgrifennu i'r wasg i anghytuno.

Ar ôl y gêm wfftiodd hyfforddwr Penybont, Dennis John, honiadau ei fod o'n bwriadu arwyddo maswr Abertawe, Cerith Rees.

Dyma gadarnhad sicr nad paranoia oedd honiadau'r Cubaniaid am y CIA.