Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

honnai

honnai

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Ayer a Wittgenstein, a honnai fod yna 'iaith breifat'.

Honnai hwnnw, meddai, fod y fwyell yr oedd y mab yn ei thrwsio ar y pryd wedi cyffwrdd rywsut â'r gwn a pheri i hwnnw danio.

Honnai'r naill blaid a'r llall fod y gwrthwynebwyr yn atal papurau cyfreithiol oddi wrth ei gilydd.

Nid oedd y Llywodraeth wedi addo dim i'r cwmniau, honnai Lloyd George.

Honnai mai'r Ymofynnydd oedd achos cryfaf yr Undodiaid yng Nghymru, ac os y collid ef na welid atgyfodiad mwy.

Honnai Tom fod hynny'n beth tlws mewn merch, ond yna rhamantydd oedd Tom.

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

Eglurodd fod i Feirdd Ynys Prydain gynt bedair Cadair - Gwynedd, Powys a Dyfed a Morgannwg - ac er mwyn pwysleisio rhagoriaeth hanesyddol Morgannwg a'i statws unigryw ef ei hunan honnai'n gyson mai Cadair Farddol Morgannwg yn unig oedd wedi goroesi i'w gyfnod ef.

Yng ngogledd Cymru, honnai fod athrawon yn perthyn i ddosbarth isaf cymdeithas; gwnâi unrhyw un a allai ysgrifennu, darllen a rhifo y tro.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Honnai mai hwn oedd 'unig bapur Crefydd Rydd yng Nghymru'.

Y genedl arall oedd yr Eidalwyr, yr honnai eu harweinydd mawr Mazzini nad oedd y Gwyddelod yn genedl yng ngwir ystyr y gair.