Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hunfan

hunfan

Safai yn ei hunfan, yn oer, annifyr ac yn gwybod yn ei chalon mai y fo oedd yn llygad ei le.

Yna, daw yn ei hôl gan gadw ar yr un trywydd yn hollol ac ar ôl dod gyferbyn â'r wâl fe gyfyd ar ei thraed ôl a rhoi llam o'i hunfan nes disgyn yn y wâl.

Doedd he ddim yn fodlon sefyll yn ei hunfan, ond roedd yn neidio i fyny ac i lawr, yn rhedeg ato ac yna'n neidio ymlaen, yn union fel ci sydd wrth ei fodd o gael cychwyn am dro.

A'r un pryd yn eu cadw yn eu hunfan.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Roedd hi'n aros yn ei hunfan bob tro roedden nhw'n stopio.

Safodd Sandra'n ei hunfan pan gyrhaeddodd hi drofa.