Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hunion

hunion

Mae gan bob un o'r baeau o gwmpas Bro Gþyr ei hynodrwydd daearegol ei hun megis ffawtiau Bae Caswel, neu ffosiliau cregyn Chonetes ym Mae Three Cliffs, ond fe awn ni ar ein hunion ar y daith fer hon i ben draw'r penrhyn ym Mae Rhosili a Phen Pyrod.

"Mi eith i mewn ar ei hunion i ti wedyn." A dyna wnes i, ac mi aeth i mewn ar ei hunion hefyd y tro cynta.

Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.

Heb ymgynghori â chig a gwaed penderfynodd Catherine Edwards yr âi hi ar ei hunion cyn belled â'r porthladd i gwrdd â'i phriod fel y byddai'n glanio yno.

os derbynnid galwad yng Nghanolfan Dolgellau wedi amser cau, gellid trosglwyddo'r alwad ar ei hunion i ganolfan gynghori arall oedd ar agor yng Ngwynedd.

Wedi'r ffilmiau bu cyfle iddo drafod yn Chapter eu hunion grefft, am gwta dri chwarter awr pryd, y nododd fel dawn sylfaenol gwneuthurwr rhaglenni y grefft o gyfuno'r gallu i ddweud stori a'r gallu i dynnu llun - dau beth sy'n gynhenid i ni'r Cymry, yn ôl Gwyn Erfyl.

Erbyn cyrraedd y Foryd, mi oeddan ni wedi blino'n ofnadwy, ond chym'ron ni ddim arnon o gwbl er mwyn i ni gael mynd i nofio ar ein hunion.