Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyaid

hwyaid

Cael mynd i mewn i'r gegin i ddewis bwyd a gweld hwyaid wedi sychu yn hongian ar y wal yno.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Nid oedd Pwll Malltraeth a'i gyffiniau'n warchodfa natur bryd hynny, a byddai llu o hwyaid, rhydyddion ac ychydig wyddau'n cael eu saethu pan hedfanent i fyny'r afon o'r môr.

Bryd hynny, ugain mlynedd yn ôl, arferai heidiau bychain o Wydau Droed-binc ddod yno, ac ychydig ddwsinau o Hwyaid Gwyllt.

Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Bydd pioden y mor a'r pibydd coesgoch i'w weld yn pigo ar y traeth, a hwyaid, mor wenoliaid a gwylanod ar y tonnau.

Ymhlith yr aberoedd sydd mewn perygl mae Dyfrdwy, a Hafren yr olaf wrth gwrs yn yn fannau bwydo o bwys rhyngwladol i adar megis y gylfinir, a hwyaid a gwyddau gwyllt.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Mae llawer o'r rhydyddion a'r hwyaid yn gorffwys yn y wlad hon cyn mynd ymlaen i Dde Ewrob a hyd yn oed i Affrica, e.e.

Roedd y lleuad yn llawn a'r wybren yn ddigwmwl wrth i'r llong adael y porthladd a thorri ei chŵys drwy'r môr agored a oedd, trwy drugaredd, fel llyn hwyaid y noson honno.

Safai'r wyau ar ben ei gilydd yn y pedyll, wyau gwyn ac wyau melyn ac wyau mawr gwynlas yr hwyaid.

Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.