Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyl

hwyl

Rhag ofn i chwi feddwl mai rhyw greaduriaid seriws iawn oeddem, dyma stori neu ddwy sy'n f'atgoffa o'r hwyl a'r mwyniant a gawsom yn ein hymwneud â'n gilydd ac â'r darlithwyr.

Pa hwyl?

Y mae'n cau ei ~ygaid ac yn ei ddychmygu ei hun ar Iwyfan y sasiwn neu'r gymanfa, yno'n llawn hwyl yn ysgwyd y miloedd a daw hynny â diddanwch iddo.

Ond un cwestiwn bach cyn ffarwelio, pa hwyl hyd yn hyn?'

Tra yn nesa/ u at y drws fe glywai chwerthin uchel ac o sbecian drwy'r ffenest gwelodd ei wraig a rhyw þr ifanc golygus yn sipian siampên ac yn amlwg yn cael hwyl iawn.

Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'

Wrth gwrs ei fod o yn y Beibl, ond mi welais i beth hefyd mewn stori sentimental yn 'Woman's Own' dro 'nôl, a mwy fyth wrth wrando ar gaset "Hwyl yr ŵyl" gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.

Rwy'n joio perfformio, a rhan o hynny yw gwisgo lan a 'neud y colur, ac o'n i'n joio chwilio am wisg a 'neud y colur dros ben llestri, oedd e'n hwyl."

Hwyl wir!

Dim ond dweud yn garedig, yn feddal, a bron yn oddefgar, "'wyt ti'n cael hwyl 'y ngwas i?".

Mi ges i hwyl yn yr eglwys, achos mi oedd y bobl yn codi ar 'u traed ac yn eistedd i lawr ac yna'n codi wedyn, nes 'mod i ddim yn gwybod lle'r o'n i.

Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi.

A siarad yn bersonol am funud bach, mae'n rhaid i mi gyfaddef, er enghraifft, na fedraf gael fawr o hwyl ar vers libre Gymraeg.

Roedd hi cyn naw y bore, yn pistyllio bwrw, ac yn oer, ond roedd yn lot o hwyl ac mae'n dda ar gyfer y gyfres.

Dechreuodd yr þyl i mi gydag Arwel Gruffydd yn Hwyl Byw yn darlithio ar Theophilus Evans i ddosbarth o bobl yn eu harddegau.

O stiwdio Barcud, Caernarfon y bydd Nia a Rhodri yn cyflwyno holl fwrlwm y noson fawr gyda chynulleidfa fyw, adloniant a wynebau adnabyddus yn cymryd rhan ac yn ymuno yn yr hwyl yn ystod y rhaglen.

Wedi misoedd o baratoi llanwyd y capel i'r ymylon a chafwyd hwyl ysgubol arni.

Ymhen hir a hwyr adroddais y stori am y gwely wrth y bechgyn a chawsom lawer o hwyl ynghylch y digwyddiad.

A hwyrach y byddai'r Ffermwyr Ifinc yn rhoi Rick mewn gwell hwyl.

Ia o bosib, ond beth am droi at 'Hwyl yr ŵyl'?

"Ac yn chwarae tric er mwyn cael hwyl," ebe Wyn, "ond bod yr hwyl wedi troi'n chwerw." Aeth Llinos a Del i edrych dros y berth i'r cae lle roedd y ddau ferlyn yn pori.

Un bore, ac yntau wedi darllen pennod a dechrau gweddio, wrth fynd ymlaen âi i hwyl.

'Uffar dân!' 'Roedd Lleucu'n prysur ferwi a Rhodri'n cael hwyl am ei phen.

Cymaint mwy o hwyl a gâi yn chwarae gyda chi...

Ymddiddorai mewn pel droed a chriced, mewn drama ac opera, a hwyl o bob math.

Ein Dr Redwood annwyl ni: sws- iddo-bob-amser; y Blwbyrd cu, cyfeillgar (llawn hwyl a sbri a thynnu coes) a'i newydd nyth yng Ngwydir Haws (a Weilz).

`Mae hyn yn hwyl.' `Edrych ar y fatras ma.

Ond pa hwyl mae rhanbarthau eraill yn eu cael?

Cefais hwyl garw yn gwrando arno'n traethu am ei ddyddiau yn Llanrwst - ond yr oedd rhai agweddau ar y sioe yn crafu, braidd.

Hwyrfrydig odiaeth fu Wil i fentro at y fath berson hyd yn oed o ran hwyl; ond wedi dod yno, ni wnai ef adweithio nac yn negyddol nac yn gadarnhaol iddi.

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Sut hwyl yn Llanfairfechan?' 'Dyna pam dw i'n galw,' meddai Rhian.

Safle llawn hwyl mewn Cymraeg ar gyfer plant 3-6 oed.

Jest o ran hwyl.

Distawodd y twrw ac oerodd yr hwyl wrth i'r criw weld wyneb y cardotyn.

Mae'r arbrofion yn hwyl - amrywiant o grisialau siwgr i belenni gwyfyn symudol, o bobi i dyfu gerddi crisial.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Pob hwyl, Berwyn.

Dim hwyl arna' i heddiw.

Ond efe a ystyriodd yn ei galon y byddai hwyl a miri mawr ymhlith gweithwyr yr adeilad hwnnw pe gwyddai pawb am ei gwymp.

Darluniwyd y llyfr gan y cartwnydd poblogaidd, Siôn Morris, ac mae ei luniau bywiog yn adlewyrchu naws a hwyl y cerddi.

Rhannent bopeth â'i gilydd, cyrsiau ysgol a choleg, siomedigaethau, hwyl, gobeithion, rhannent freuddwydion a chyfrinachau, a hyd yn oed gariadon.

Fe gafodd y ddau andros o hwyl yn ystod y munudau nesaf.

Ond cafodd y ddau well hwyl na Stephen Hendry.

Dibynnai hwyl y canu a'r dawnsio i raddau helaeth ar gyfeiliant cadarn a bywiog Miss Olwen Roberts.

Mae na ragolygon am noson ddifyr!! Pob hwyl am y tro.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Byddent yn cysgu tan fod y siopau yn agor am ddeg, ac wedyn bant a nhw am hwyl a sbri.

'Hwyl,' sibrydodd Huw yn dawel fach wrth wylio cysgod ei frawd ar y pared.

Wel dyma fi eto heb eiriau i fynegi'r hwyl wrth gael bod yn rhan fach o fyd y morlo.

Disgrifiwyd y sgwnerau hyn, y Western Ocean Yachts, fel llongau "eithriadol o brydferth, ar lawn hwyl neu wrth angor; yn wir, y rhai prydferthaf yn hanes llongau hwylio%.

Pob hwyl am y tro.

O dan yr holl hwyl roedd pwrpas i'r diwrnod, codi miliynau o bunnoedd i elusennau trwy Gymru a gweddill Prydain fel y gallai miloedd o blant elwa.

Yna, wrth fwrdd mwy cyfleus na'r gist geirch sgrifennwn fy llythyrau a chael cryn hwyl wrth y gwaith.

Gwybodaeth Personol(c.v.), Gwybodaeth Teuluol, Gwybodaeth Lleol, Hwyl, 2 Cwis, Hel Achau ar Camera Hudol Digidol.

Y noson gyntaf y daeth i Aberystwyth, yr oedd yn un o'r dwsinau a glystyrai o gwmpas Idwal wrth i hwnnw ymlwybro mewn rhialtwch a hwyl ar hyd y prom.

Roedd tripiau'r Rhyl yn bethau arbennig iawn, dyddiau hapus i'w cofio er bod y boced yn weddol dlawd ond roedd hwyl i'w gael gyda bwced a rhaw a the am ddim yn nhŷ bwyta'r 'Summers'.

Dros y blynyddoedd, mae llawer wedi gadael y dref fechan wledig yma ar gopa'r bryn ac wedi clywed am yr holl gyfoeth, yr holl fyw braf a'r holl hwyl sydd yna i'w gael yn y ddinas.

Mae yna sawl cyfle iddyn nhw gael gwneud hwyl am ben yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion ac i ddychanu agweddau oedolion, eisteddfodau a phethau o'r t`ath.

I'r mwyafrif o bobl, rwy'n siŵr mai braidd yn sych yr ymddengys llawer o'r llenyddiaeth uchod (er fod enwau hir a phert yr anifeiliaid yn gallu bod yn hwyl), ond i'r sawl sydd a gwir ddiddordeb mae pori rhwng cloriau'r cyhoeddiadau hyn yn dod ag oriau o bleser amheuthun, er efallai mai ansylweddol yw eu ffurf.

Barnai y câi well hwyl ar ddewis enw wedi gweld wyneb y ci ...

Dydw i ddim wedi blino o gwbl - rydw i'n cal hwyl,' oedd ymateb Dilys.

Cyn hynny, roedd yna fwy o betha i'w gwneud, mwy o lefydd i fynd iddyn nhw, digon o hwyl.

Ceir hwyl glerwrol yn llawer o ganu'r Nant, ond molir yr abad ganddo'n syber ddigon, gan ddweud ei fod yn 'Cynnal Ehangwen fel Sion Abad Hen' 'wrth ganu gloria'.

Evans ac yntau n cystadlu'n erbyn ei gilydd o ran hwyl, ac 'rwy'n meddwl iddo gyfaddef mai'r Llwyd oedd y mwyaf llwyddiannus).

'Sut hwyl gest ti?' gofynnais iddo pan ddaeth yn ôl ddydd Llun.

Eu hwyl fwya' nhw ar yr adag hon o'r flwyddyn oedd marw!

Yn ffodus iawn, fe recordiais i rai o'r darlithoedd hynny, ac ambell hwyrnos gaeaf mi fyddaf yn rhoi'r tâp yn y peiriant, ac yn cael mwynhad o ailwrando, ac o all-greu hwyl y gwmn aeth felys honno ar ben yr odyn.

"Cymer arnat o leiaf dy fod di'n mwynhau dy hun, er mwyn popeth", sibrydai wrtho yn biwis, a sylweddoli'n sydyn fod amarch Lowri Vaughan wedi treiddio'n ddwfn i'w gwneud hi mor ddi-hwyl.

Yn wir, cyn i'r Methodistiaid gymryd gafael, diwrnod i'w fwynhau oedd y Sul gyda chwaraeon a hwyl o bob math ar gyfer pawb - hynny ydi ar ôl iddynt fynychu'r eglwys ben bora, wrth gwrs!

Cawsom ein digoni, nid yn unig o fara a chaws, ond hefyd gyda hwyl y cymdeithasu.

"'Dach chi'n gwneud hwyl am fy mhen i." "Mm..." "Be'?" "Cerwch o'na," meddwn.

Diolch i sgript ardderchog Jonathan Myerson ac animeiddwyr talentog yng Nghaerdydd, Llundain a Mosgo, rydyn ni wedi creu ffilm sydd nid yn unig yn llawn cywirdeb deallusol a safonau artistig uchel, ond sydd hefyd yn hwyl.

Yr oedd yn ein plith gynghaneddwyr praff fel Eilir Aled, Thomas Jones (Meudwy) a Daniel Davies y Ponciau, ac iddynt hwy gael hwyl efo'r gynghaendd oedd y peth mawr.

Pob hwyl i chi'ch dwy gyda'ch gwaith.

Aeth i hwyl arbennig wrth ddisgrifio'r 'drygau cysylltiedig':

Pob hwyl i'r gyfres a cofiwch wylio.

Ond mae'n debyg mai dull Wmffra ni o ddeud y stori oedd hanner yr hwyl.

Cynigodd Steven a Mabel goginio pryd inni a chawsant hwyl reit dda - pryd blasus dros ben.

Can ffynci sydd â chytgan bywiog sydd mor nodweddiadol o'r hwyl sy'n cael ei greu gan y grwp.

Pob hwyl a nadolig llawen.

O'r dechrau roedd yn amlwg nad oedd llawer o hwyl ar y gyrrwr.

Ond chefais i fawr o hwyl ar fy ngwaith am tua deunaw mis.

Noswyl Nadolig oedd hi ac roedd y pentref cyfan mewn hwyl.

Mae plant yn gallu cael tipyn o hwyl wrth eu tyfu a gellid eu defnyddio ar gyfer mesur, cyfraddau tyfiant, etc.

Dechreuodd fynychu'r Ysgol Sul a dysgodd ddarUen ei Feibl ac ai i gryn hwyl mewn seiadau a chyfarfodydd gweddi.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas newydd fod, a chafwyd llond penwythnos o hwyl, sbri a gweithredu.

Am wythnosau bu Rhian yn ddrwg ei hwyl o ganlyniad i'r pwysau arni.

'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.

Ar ôl cinio aeth y ddau i'r lolfa am goffi ac yno roedd nifer o bobl wedi ymgynnull, yn eu plith amryw o Wyddelod lleol gan gynnwys offeiriad llawn hwyl.

Yr ydw i wedi ei ddweud o'r blaen; does yna ddim byd difyrrach, doniolach ac yn destun cymaint o hwyl a Sais yn meddwl ei fod wedi cael cam.

Er enghraifft, mae gen i gyfeillion sydd wedi troi yn Efengylwyr, sydd wedi penderfynu, er eu bod yn Gymry Cymraeg, fod yn well ganddyn nhw fynychu Capel Saesneg gan fod hwnnw'n Gapel Efengylaidd, yn llawn hwyl a sbri ac ati.

Serch hynny mae siarad drwy'r hnos yn hwyl ac yn rhan o'r þyl.

Bwriad y rhestr e-bost yw darparu lle i ddysgwyr yr iaith Gymraeg dysgu, calonogi ei gilydd, gofyn cwestiynau, rhannu gwybodaeth, ymarfer, a chael hwyl.

Canai geneth o Sir Fôn yn ardderchog; yr oedd yno lawer o ffoaduriaid o drefi mawr Lloegr, a chawsom lawer o hwyl.

Dwi'n siwr bod Cassie wedi mwynhau'r profiad, yn enwedig gan bod ei mam wedi ymuno yn yr hwyl.

Meddwl y cawsem hwyl.

Er gwaethaf ei blinder a'i phrofiadau erchyll, cytunodd Siwsan i gymryd rhan mewn cynhadledd i'r wasg y bore canlynol, wrth i Adam a Natalie gael hwyl eithriadol yn chwarae yn yr eira.

O'r funud gyntaf, cawsom ein swyno gan y lle - y pentref glân ar droed y mynydd enfawr, y tai a'u bocsus blodau lliwgar, cwrteisi'r bobl, a hwyl ein cyd-deithwyr yng Ngwesty Montana.

Mae'n siŵr ei fod o, os ydach chi'n un o'r criw ac yn rhan o'r hwyl.