Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyliai

hwyliai

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth Porth Amlwch yn ganolfan adeiladu llongau bwysig, a hwyliai llongau o Borthaethwy i bedwar ban byd.

Roedd gan ei pherchenogion hi, teulu Davies Porthaethwy, o leiaf deg llong, llongau mawr yn y cyfnod hwn, ar yr un fordaith, i gyd yn cludo cannoedd o deithwyr a nwyddau, ac ar draws y Fenai yng Nghaernarfon, roedd cartref John Owen, Ty Coch un o feibion teulu Rhuddgaer, Mon yntau'n berchennog ar longau a hwyliai i Ogledd America ac Awstralia.Ceir rhywfaint o'u hanes hwy yn y bennod nesaf.

Bu'n ddigon ffodus i gael teithio ar long y Capten Morfa Williams o Gaernarfon - un o Anghydffurfwyr selocaf y dref honno - a hwyliai o'r Traeth Mawr, a chael gofal caredig y Capten a'i briod gydol y siwrnai hir.

Roedd diwedd caethwasiaeth a Rhyfel Annibyniaeth America yn ergyd economaidd drom i Lerpwl, ond erbyn hynny sefydlwyd llwybrau marchnata newydd i'r Dwyrain Pell a mannau eraill, a manteisiwyd hefyd ar yr holl ymfudwyr a hwyliai o Lerpwl i fyd newydd yn America neu Awstralia.

Meistri yr agerlongau bach a hwyliai rhwng Lerpwl a phorthladdoedd y Fenai oedd Capten Evans a ChaptenTimothy, ac y mae'n bur debyg fod nifer o'r ymfudwyr yn gwneud y fordaith o'r Fenai i Lerpwl, y cam cyntaf o'u teithiau i wledydd pell, ar eu llongau nhw.