Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwylustod

hwylustod

Er mwyn hwylustod y dosberthir y defnyddiau gwaith: (a) Gwleidyddion ymarferol.

Er hwylustod fe'u galwaf yn ochr academaidd a'r ochr ymarferol.

Pan oedd eu hymerodraethau yn eu bri, mater o hwylustod wrth weinyddu oedd mynnu mai iaith y goresgynnwr oedd yr unig iaith swyddogol yn y diriogaeth.

Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.

Buasai sefydlu dwy glas-eglwys neu eglwysi colegol yn gryn hwylustod i'r esgob yn ei waith.

Wel, y mae hyn oll yn ddigon gwir ac yn ddigon trist, ond pan ddown at yr Eingl-Gymry, fel y'u gelwir, er mwyn hwylustod yn unig, cofiwch, y mae'r sefyllfa ganwaith gwaeth.

Gan hwn mynnwn gyngor, gan hwn acw wybodaeth, gan un arall nwyddau, hwylustod, cysylltiad: cant a mil o bethau, a'r pethau hynny yw'r unig gyfathrach rhyngom ag ef.

Dyna ogoniant y cyfrwng newydd hwn, hwylustod y cysylltiad, cymaint gwell na'r post tost.

Ar lawr y tyf tegeiriannau Gogledd Ewrop fodd bynnag, er mawr hwylustod i ambell chwilotwr a thynnwr lluniau!

Yr oedd Rhanbarth Cymru yn bod bellach a sefydlwyd stiwdio ym Mangor er hwylustod i ddarlledwyr o'r gogledd fel yr oedd stiwdio Abertawe eisoes yn gwasanaethu'r gorllewin.