Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hwyneb

hwyneb

Pan oedd Mam wrthi'n rhoi'r sêl ei bendith ar yr Horlicks, a gwên fawr lydan ar ei hwyneb am y tro cynta'r diwrnod hwnnw, daeth sgrech iasol o'r llofft.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Fi sy'n ennill!' Ni thynnodd Llio ei golwg oddi ar ei hwyneb a synnodd wrth weld pa mor wyn a syth ledd ei dannedd.

Darganfu seryddwyr, wrth ddefnyddio telesgopau grymus, mai'r seren ddis- glair agosaf wedi'r haul yw Alffa Centawrws, a bod y goleuni oddi ar ei hwyneb yn cymryd dros bedair blynedd i gyrraedd atom.

Doedd dim lliw yn ei hwyneb ac nid edrychai'n rhy iach.

Gallai weld fod Rhys wedi cynhyrfu ac roedd gwân foddhaus ar ei hwyneb.

Yn hytrach na mynd yn deneuach, mae ei holl gorff, gan gynnwys ei hwyneb, wedi chwyddo'n erchyll.

Bob tro y meddyliai amdani, hyllaf yn y byd y gwelai ef ei hwyneb a'i chorff hen, fel bod y côf amdani bellach yn hunllef a dyfai'n ffieiddiach beunydd.

"Bob", meddai hi, â gwên lond ei hwyneb, "mae yma chwe pharsel wedi dod i chi%.

Gwyliodd ef yn ymdonni o gwmpas ei hwyneb.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Eithr o droi at Iran a Thwrci mae'r weriniaeth yn troi ei hwyneb unwiath eto i gyfeiriad Islam.

Roedd golwg wyllt arni, ei gwallt yn flêr a'i llygaid yn gochion ac ôl crio mawr ar ei hwyneb.

Hyd yn oed wedi pedair awr o ymarfer caled yn y gwres 'na fe ddaeth pawb oddi yno gyda gwên ar eu hwyneb.

Erbyn iddo orffen roedd ei chopa'n llosgi, ei hwyneb yn goch a'i thymer drwg hithau'n dechrau fflamio ond chafodd hi ddim cyfle i ymollwng.

Yr oedd wedi ei choluro ei hun fel doli, ei hwyneb yn wyn, ei gruddiau'n goch tywyll a'i gwefusau yn goch golau golau.

Helô, Rhys; a sut wyt ti, pwt?' gofynnodd i Mali a gwenodd Mali lond ei hwyneb.

Yn wir, dywed rhai o'r arbenigwyr y gall y gorchudd fod wedi ymddangos hyd ei hwyneb fwy nag unwaith yn ystod yr eonau meithion gan sychu ymaith i ymddangos drachefn.

Daeth draw ataf a'i gwen hawddgar arferol yn gwneud plygiadau yn ei hwyneb.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

Jîns a chrys t yw ei steil a does dim mwy na llyfiad bach o golur ar ei hwyneb siriol.

Safodd gwraig ganol oed o'm blaen gyda golwg bryderus ac ofnus iawn ar ei hwyneb.

Datododd y sgrôl o'm blaen, ac yr oedd ysgrifen ar ei hwyneb a'i chefn; yn ysgrifenedig arni yr oedd galarnadau, cwynfan a gwae.

Gallai weld amlinelliad ei hwyneb yn glir.

Fe ddaw ei eiriau am y rhan o wisg pen Rhiannon a ddylasai guddio'i hwyneb ag adlais o gynghorion Tertullian ar wisg gwragedd, a llenni'n arbennig, a hefyd o eiriau canon y chweched ganrif sy'n gorchymyn i wragedd clerigwyr wisgo llenni.

Chwith meddwl na welwn eto y wen yn llenwi ei hwyneb, nac ychwaith glywed ei llais cyfoethog pan fyddai yn cyfarfod a'i chyn-ddisgyblion.

Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.

Ar y pryd rhyfeddais at y ddyfais anhygoel ond erbyn hyn ni chredaf fod JH (a dyna fyddai pawb yn ei alw) yn bencampwr ar ei thrin oherwydd ymddangosai'r lluniau â'u hwyneb i waered yn lled aml.

Byddai wrth ei fodd yn gweld ei hwyneb wedi chwyddo.

Rydw i wedi derbyn dau yr un pryd, gwaetha'r modd.' Wrth sylwi ar ei hwyneb ychwanegodd yn gyflym, 'Dim byd gwaeth na mater bach o yrru'n ddiofal.

Weithiau mi fyddai ganddi blorod ar ei hwyneb hefyd.

Daeth Miss Lloyd i agor y drws a rhyw gochni tywyll anarferol yn llenwi ei hwyneb ac yn lledu i lawr ei gwddf.

Hoffai glywed ganddo hanesion y llys yn Llundain, er bod y pethau a ddywedai weithiau yn tynnu gwrid i'w hwyneb.