Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hy

hy

Gall y Ddraig Goch wisgo'i chlocsie yn hy ac yn dalog - mae ei dawnsio gwerin ar y map - Map y Byd.

A 'does arna i ddim eisio bod yn rhy hy - ond gan ein bod ni wrthi hi, beth am y flwyddyn wedyn?' Tri chyhoeddiad ymlaen !

Mae hi'n anos i'r corff ymddangos yn iau, fodd bynnag, ac yn yr Act Gyntaf, mae cyhyrau a phwysau cyrff yn anochel yn hŷn na'r arddegau - trafferth teledu eto yw ei fod yn gyfrwng mor naturiolaidd, fel rheol, fel bod unrhyw wyro i ffwrdd oddi wrth y cwbl realistig yn annerbyniol tra bod llwyfan yn barod i gyflwyno gwahanieth fel rhan o her actio.

Mae'r Tseineaid wedi credu erioed fod ginseng yn arbennig o fendithiol i'r hen, ei fod yn peri i ddyn fyw yn hŷn ac yn gwella ansawdd ei fywyd.

Mae'r trydydd yn ddyn tipyn yn hŷn na'i gyfeillion, ond er hynny y mae yr un mor gefnsyth ac urddasol.

Ond penderfynais ymatal rhag mynd yn rhy hy arno y bore cyntaf.

'Hy!' medda fo, a chodi'i ysgwyddau fel ci yn disgwyl ffoniad, 'arni hi mae'r bai - ond paid ti â bod yn hen drwyn.'

Mae'n rhaid bod golwg wedi dychryn ar fy wyneb, gan yr âi rhai o'r bechgyn yn fwy hy arnaf, a llawer yn gweiddi, "Roi di gweir i mi?" Yn sydyn, cododd un bachgen ei law, a thaflodd fy nghap oddi ar fy mhen.

Er bod Mr Parri flynyddoedd lawer yn hŷn, wnaeth o ddim anghofio unwaith!) Ar ddechrau pob cyfarfod, byddem yn cael paned o de i'n cynhesu ni ar ôl cerdded i lawr yma drwy'r gwynt a'r glaw.

Mae'n syn gen i na fydden nhw wedi llyncu'r llestri hefyd!' 'Hy!' meddwn i'n reit bigog.

Hwyrach mai dim ond teidiau oedd gan y nofelwyr: wedi'r cwbwl dim ond gyda Daniel Owen yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf y dechreuwyd sgrifennu nofelau o ddifri yn Gymrag, ond roedd yna draddodiad hŷn o sgrifennu cofiannau y gellid tynnu arno.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Dyna i ti pwy fu yma!" gwaeddodd Deio, "does yna neb arall." Geneth ddewr oedd Cadi, ond fe aeth llaw oer ofn am ei chalon o feddwl fod rhywun wedi bod mor hy â mynd trwy'r tŷ tra oeddynt i ffwrdd.

Wedi blwyddyn yn yr Ysgol Ganolraddol bu'n rhaid i Euros, a hefyd ei frawd hŷn, Thomas a oedd wedi cael ei dystysgrif 'Junior' fel y gelwid hi, adael yr ysgol a chwilio am waith.

Mewn ymateb i'w ymdrech i'w fynegi ei hun, bydd y siaradwr aeddfetach yn cynnig adborth iddo, adborth o fath unigryw sy'n ystyr ganolog ac sydd hefyd yn amddifad o unrhyw elfen fygythiol ee Plentyn Ifanc: "pan" ethin Plentyn Hŷn: Ia, cwpan Gethin ydi honna ynte neu Plentyn: "nath fi myn i Wrecsam efo nain fi Dydd Sadwrn" Athro: "Mi es ti i Wrecsam hefo dy nain Dydd Sadwrn.

Safodd Alun ar ei draed a'i wyneb yn welw a doethineb llawer hŷn na'i oed yn ei eiriau.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Dywedwch `Hy!' a chaewch eich ceg yn glep.

Mi gei di weld!' 'Hy!' wfftiodd Mam.

'Hy!' meddai'n chwyrn.

Rydym yn meddwl yn aml iawn fod pobl hŷn yn `wahanol' a hwyrach nad ydyn ni'n eu trin nhw fel oedolion urddasol pan fyddwn ni'n siarad â nhw.

Yr oedd Daniel ryw ddwy genhedlaeth yn hŷn na mi, a phan euthum yn grotyn i'r gwaith tun yr oedd ef yn rowlo yn y felin fawr.

Ond, gyda'r ifanc yn ymddwyn fel yr hŷn, does dim gobaith; bydd rhagfarn a rhagrith yn dal i deyrnasu, a hynny'n oes oesoedd.

Yna, dyma hi'n rhoi copi o weddi Saesneg i mi, rhag ofn y byddai'r weddi o gymorth i rywun arall: Hollalluog Dduw, a wnaethost bob dydd i'w fyw yn llawn, bendithia bawb o'r to hŷn.

Mi ddaliaf i ei fod yn hŷn o lawer na'n cenedlaetholdeb gwleidyddol, ac y gellir ei olrhain, yn ei ymwneud a'n hiaith ac a'n hanes, i ddechreuad y cyfnod modern.

Gweld ei mam yn agor y drws iddo, ac yntau'n camu i mewn i oleuni'r ystafell, yn fersiwn hŷn o Marc.

Hwyliodd Capten Hughes ei long adref yn ddiogel ond cafodd ei siomi pan ddaeth Capten hŷn nag ef i gymryd gofal o'r llong.

Sylla'n hy i fyw llygad y camera, gan hudo sylw y gwylwyr, yn union fel petai'n Rasputin y drefn gomiwnyddol - 'guru' gorffwyll sy'n ceisio elwa ar hygoeledd y werin.

"Mae angen ffeindio pethau sy'n gyffredin i'r genhedlaeth hŷn a'r ifanc." Mae'r mudiad eisoes wedi dechrau crelu 'canghennau' newydd i aelodau iau o dan yr enw Clybiau Gwawr ac mae Non Griffiths yn bwriadu parhau gyda'r polisi.

Trodd at ei chyfeillion gan alw, 'Mae'r soldiwr yma'n mynd i Scotland.' Ar hyn, daeth hogyn ychydig yn hŷn na mi i gyfeiriad y ferch a minnau.

(Gweddi a gyhoeddwyd gan Ganolfan Sant Samson, Efrog) Hyn, gan obeithio y bydd y weddi o gysur i'r rhai sy'n hŷn ac yn gymorth i warchod rhai iau rhag hunanoldeb.

Rhaid fod ei frawd Dafydd o oedd yn hŷn nag ef o ryw ddeng mlynedd, yntau, wedi chwarae rhan bwysig yn ei addysg, yn enwedig gan fod pob tystiolaeth yn cytuno fod Dafydd yn naturiol dalentog, fod ganddo gof gafaelgar a dawn ymadrodd, a'i fod wedi darllen 'llawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth a ffug-chwedlau'.

Ond yng ngeiriau Syr T H Parry Williams, mae Towyn yn un o'r bobl ryfeddol hynny sy'n "myned yn iau wrth fyned yn hŷn".

'Hy.

Nodweddion, cymhelliad a sefyllfa bersonol oedolion sy'n llwyddo (hy y cysylltiad rhwng llwyddiant a'r newidiadau mawr ym mywydau unigolion, fel cael plentyn, dychwelyd i Gymru, ymddeol, ysgariad).

a dyna a wnaethant, a 'r ddau hy ^ n ar brydiau 'n gorfod arafu rhag gadael huw ar ôl.

Tarian Gwilym Humphreys i'r oedran iau, Tarian Evie a Heulwen Jones i'r oedran canol, a Tharian Twynog Davies i'r oedran hŷn, a chalondid calon yw gweld rhywle rhwng trigain a phedwarugain o'r aelodau yn cyfranogi yn y cystadlaethau hyn, y naill flwyddyn ar ôl y llall.

Pan neidiodd e roedd Archie MacFarlane yn wyth deg naw mlwydd oed, un deg pedair mlynedd yn hŷn na'r person hynaf i neidiodd mewn parasiwt o'i flaen.

Mi fyddai'ch tiwn chi'n wahanol tasech chi'n hŷn.

Yr oedd pobl yn Nant-y-moel a arferai siarad Cymraeg, pobl mewn oed a dyrnaid o blant hŷn na mi, rhai a fynychai eglwys fy nhad.

Dywedwch `Hy!'.

Hy!

Fel ym mhob oes, cofiaf fod criw mawr iawn yn cystadlu yn yr oedrannau iau ond mai prinhau fyddai'r cystadleuwyr wrth fynd yn hŷn.

Dadleuir mai'r hwyr-ddyfodiaid, plant di- Gymraeg sy'n cyrraedd yr ysgolion yn saith oed ac yn hŷn, yw'r garfan sy'n achosi'r trafferthion.

'Hy, dwi'n ei gofio fo'n dwad yma i chwilota am waith ar ôl crafu drwy'i din i ennill gradd yn Aber.

Yr oedd y pwyllgor wedi rhannu'r arian rhwng Canolflannau Hamdden Caernarfon a Bangor (er mwyn cael cadeiriau arbennig i'r anabl); Cangen Gwynedd o 'Headway'; Clwb Hŷn Gateway a Chlwb Strôc Ysbyty Gwynedd.

'Hy!

Roedd y cynhyrchiad, felly, i fod i greu llun oedd yn caniatau inni ddarllen meddwl Ifans; ofn y genhedlaeth hŷn o offer mecanyddol, o fod allan o waith wrth gael eu sarhau gan newydd-ddyfodiad di-grefft sydd yn medru defnyddio'r offer hwnnw; ofn agweddau newydd o ddiffyg parch; ofn ffyrnigrwydd caled, hyderus y to newydd a chymysgedd meddwl ynglŷn a Chrefydd - a yw'r Giaffar yna i wrando ar yr holl gwynion hunan-aberthol?