Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hymyl

hymyl

Eisteddai'r hen ŵr yn ei hymyl, yn edrych ar ei bapur ac arni hithau bob yn ail.

Creffais ar y dyn o 'mlaen yn mynd arni hi - safodd yn ei hymyl, herciodd y lifft a neidiodd y dyn ddwy lath i'r awyr - ac i fyny a fo!

Mae'r un ddelfrydiaeth yng ngwyrdd y gwellt ac yn oren y tywod, ac yn hwn eto ceir afon yn rhedeg ar y tywod a dau blentyn yn chwarae wrth ei hymyl gyda phwced a rhaw - y ddau mewn trywsus cwta.

Yn ein hymyl ni!

Roedd o'n hymian yn hapus, a braidd yn feddw, wrth fynd i'r gwely'r noson honno, ac yn wir doedd dim cymaint o aroglau wynwyn ar ei wraig pan orweddodd yn ei hymyl.

'Rhoswch funud.' Cododd y ffôn wrth ei hymyl a siaradodd yn isel.

Yn lle hynny ni thynnodd ei lygaid oddi arni ac ni symudodd o'i hymyl.

Caeodd ei llygaid i feddwl amdano, tra canai Ger yn ei lais Nat King Cole wrth ei hymyl.

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Ar fraich y gadair esmwyth roedd papur newydd, a phâr o esgidiau ar y llawr yn ei hymyl.

'Move!' meddai llais fel taran wrth eu hymyl.