Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hynaf

hynaf

Ty Apple yn reit fawr.Y teulu i gyd yn byw yno - hi, ei brodyr, gwraig a phlentyn ei brawd hynaf yn ogystal a'i mam a'i thad.

Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.

Os astudir rhannau hynaf y blaned Goch fe sylwir ar olion sianelau afonydd yn ymdroelli hyd-ddynt a gellir ei dyddio'n ôl i adeg y mynyddoedd tanllyd actif.

Byddai wyth o ddynion yn y 'criw dal rhaff'--saith i ollwng y rhaffwr dros yr ymyl a'i ddal yn ddiogel wedyn tra byddai'n gweithio, a'r wythfed, yr hynaf fel rheol yn gwasanaethu fel 'flagman'.

Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.

Un parod efo'i ddyrnau oedd Owain Goch yr hynaf ohonynt ond am yr ail fab dywedid bod hwn yn graffach na'i gyfoedion.

Câi'r tad y mab hynaf a'r ieuengaf, a'r fam y mab canol.

Nid oedd yn flwydd oed pan gollodd ei dad ynghyd â'i ddau frawd hynaf yn y dinistr a fu pan dorrodd dŵr i mewn i waith glo Argoed.

Efallai fod mab hynaf ac aer Maurice Wynn, yr enwog Syr John Wynn o Wedir yn ddiweddarach, wedi bod yn gyd-ddisgybl â Morgan am rai blynyddoedd, er bod mab y sgweier ryw wyth mlynedd yn iau na mab y tenant.

Mynd i'r Brifysgol yng Nghaeredin fu fy hanes y flwyddyn ddilynol a chan fod Dafydd Wyn, fy mrawd hynaf, newydd raddio o'r Royal (Dick) Veterinary College yno, yn y mis Gorffennaf cynt, roeddwn innau'n medru camu i'r gymdeithas Gymraeg yr oedd ef yn gybyddus â hi.

Mae'r rhai hynaf ohonom yn cofio adeg pryd y byddai galwadau aml iawn ganol nos ar y meddygon ond tybed a oes angen deddfwriaeth ynglŷn â hynny o alwadau ganol nos sy'n digwydd erbyn hyn?

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Mewn boneddigeiddrwydd gadawyd i'r rhai hynaf gymryd eu heisteddle wrth y bwrdd yn gyntaf, a chafodd pedwar o'r rhai ieuengaf eu hunain heb le i eistedd, sef Harri, Ernest Griffith, a dau arall.

Dyma'r llawysgrif hynaf o'r Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer, un o brif gampweithiau llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol.

`Hwyrach mai ti yw'r hynaf, ond nid ti yw'r cryfaf.' meddai'r grŵp Tynnodd Paul y drws eto â'i holl nerth.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.

Dangosodd pob un ohonynt, o'r ieuengaf i'r hynaf, ddiddordeb bru+d yn yr hyn yr oedd gan Mrs Davies i'w ddweud wrthynt.

A'r Gymraeg ydyw un o ieithoedd hynaf Ewrop, yr hynaf medd rhai.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

'Owain bach,' meddai hi wedyn, gan roi gwên fawr ffals ar ei mab hynaf yn y drych.

Gwyddent yn iawn beth oedd ym meddwl eu brawd hynaf - nid oedd yn beth braf o gwbl bod ar y ffordd i nôl Iona.

Tua dechrau'r bymthegfed ganrif y seiliwyd, ymhlith eraill, brifysgolion hynaf yr Alban ac y ceisiodd Owain Glyn Dwr wneud yr un gymwynas â Chymru.

Ceisiodd Syr John ddarbwyllo ei fab hynaf y dylai weithio'n fwy dyfal gyda'i astudiaethau yn Ysbyty Lincoln oherwydd, oni wnâi ei hun yn addas ar gyfer bywyd Llundain, byddai'n rhaid iddo fodloni ar fywyd y wlad.

oedd cwestiwn Kate, y plentyn hynaf.

Ychydig filltiroedd o'r dref ei hun yn Emiriaeth Sharjah mae ardal natur Khor Kalba gydag un o fforestydd mangrove hynaf yr ardal.

Yn yr Historia Brittonum, a gasglwyd ynghyd o amrywiol ffynonellau yn y nawfed ganrif, y ceir yr ymgais hynaf i adrodd am orchestion Arthur mewn paragraff o ryddiaeth.

Y wyddor hynaf Seryddiaeth, wrth gwrs, yw'r wyddor hynaf.

Y pentref ei hun Rwy'n credu fod Chapel Street yn un o'r rhesi tai hynaf ym Mhentraeth, a llawer ohonynt wedi cael eu hadnewyddu.

Hwn oedd y gŵr hynaf yn y dref, bellach yn grwm ac yn gloff gan ei oedran ond roedd pawb yn ei barchu o hyd.

Bum mewn amryw ddramau gyda Miss Annie Thomas y ferch hynaf, a bu hithau a'i chwaer yn organyddion Capel Ebenezer am lawer blwyddyn.

Yng nghylch Amlwch ac yn Ysgol Llangefni yr oedd mab hynaf y Cynghorydd a Mrs Percy Ogwen Jones Llaneilian eisoes yn enwog am ei ddisgleirdeb.

Sail nifer o greigiau gwyrdd a phiws, creithiog fel cestyll adfeiliedig, yng nghanol y tywod sydd ymysg creigiau hynaf Cymru, yn dyddio o'r cyfnod cyn Gambriaidd.

yr oedd yr hynaf, joseph, wedi dechrau chwarae'n gyhoeddus ar y delyn yn bedair oed ; pan oedd yn ddeuddeg fe gyhoeddodd gasgliad o alawon cymreig, british melodies ".

Roedd yr hynaf wrthi'r diwrnod o'r blaen yn codi clamp o gastell a'i addurno â cherrig a gwymon ac yna gwneud ffos o'i gwmpas yn barod i ddal dŵr y môr yn dod i mewn?

Soniai am y ganmoliaeth a gafodd gan y meddyg lleol ar ôl ymarfer cymorth cyntaf pan dorrodd fy mrawd hynaf ei fraich wrth gwympo ar y 'patshyn'.

Credaf mai ein tŷ ni a'r tŷ nesaf i lawr oedd y tai hynaf yn y stryd, a'u cefnau'n wynebu ar ryw fuarth a stabal ar gyfer hanner dwsin o geffylau.

Daeth gorchwyl digon annifyr i'm rhan ar ôl te, sef gorfod dweud wrth y ferch hynaf þ sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn yr Ysgol Gyfun þ na fedraf fforddio iddi gael mynd hefo criw o'r ysgol i'r Swistir yn ystod gwyliau'r Pasg.

Cafodd Clwb Pêl Droed Porthmadog ei ffurfio yn 1884, sydd yn eu gwneud yn un o glybiau hynaf Cymru.

Ni bu dim plant o'r briodas, a'r bachgen a gafodd ofal tadol Morgan oedd ei nai, Evan Morgan, mab ei frawd hynaf.

Bilo oedd y mwyaf ohonyn nhw, a'r hynaf hefyd o gryn dipyn.

Fe agora i e.' Gwthiodd Paul, y bachgen hynaf, y lleill i'r ochr a gafaelodd ym mwlyn drws y wardrob.

Y laser cyflwr solid Dyma'r math hynaf o laser.

Beth bynnag, priododd ei fan hynaf, Thomas a Mary Elisabeth Morgan o Ynys y Bwl, morwyn yn nhafarn Y Griffin, Pentre a bu iddynt naw o blant.

Siop lyfrau hynaf Rhydychen sy'n cynnig gwasanaeth ar-lein ar gyfer llyfrau newydd a rhai ail-law.

Gafaelodd mab hynaf Thomas a Maria yn y gwaith a phenderfynodd adeiladu tŵr cerrig sylweddol yng nghanol Parc Glynllifon fel claddfa i'r teulu.

Daeth marwolaeth Damilola Taylor ar ei ffordd adre o'r ysgol yn ddiweddar ag atgofion yn ôl i mi am yr adeg pan benderfynodd y ferch hynaf ei bod yn dymuno cerdded i'r ysgol ac yn ôl ar ei phen ei hun.

Arhosodd y mab hynaf yn Llanelli, yn aelod o staff swyddfa Gwaith Alcan Morwoods.

Y rheswm pennaf efallai yw'r trefniadau amherffaith yn y ffermdai hynaf sy'n gadael y ddau ryw ormod gyda'i gilydd a hynny hyd yn oed yn y nos'.

ef oedd yr hynaf o 'r tri tri, ac ef oedd wedi gwahodd ffred i ddod am dro i lawr yr afon y nos fawrth honno yn y gwanwyn cynnar.

'Cleddyf Islam' yw'r enw a roddodd i'w fab hynaf.

Pan neidiodd e roedd Archie MacFarlane yn wyth deg naw mlwydd oed, un deg pedair mlynedd yn hŷn na'r person hynaf i neidiodd mewn parasiwt o'i flaen.

Yr oedd rhai o'r bechgyn hynaf wrth eu bodd yn canu rhai o ganeuon y rhyfel a chafodd Gethin Davies gyfle i ymddangos ar y teledu.

Os ydyn ni'n gwneud hyn fe ddylen ni gofio am Archie MacFarlane, y neidiwr parasiwt hynaf.

Ar y llaw arall cytunir mai gwerin amaethyddol fu'n trigiannu yma ers cantoedd, a honno yn ymdroi yn niwydiant hynaf dynolryw, ac yn gofyn am gynhorthwy crefft a dawn.

Yn yr ardal lle'r wyf yn byw yn awr clywaf y genhedlaeth hynaf yn cyfeirio yn aml at y dioddef a'r cyni a brofasant y dwthwn hwnnw.

Doeddwn i ond yn gobeithio y byddai gan un o drigolion hynaf y fro ambell atgof neu hanesyn diddorol ar fy nghyfer.

Galwodd ar ei mab hynaf, a chlywodd ei lais wrth iddo drafod ei geffyl newydd.

Pan drafodai Rhian y pwnc efo Robin Stead, ei phartner hynaf, dim ond gwenu a wnâi hwnnw.