Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hynafiaid

hynafiaid

Ni allaf wadu na ddaeth lles materol o ymwadiad fy hynafiaid a'r Gymraeg.

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Am y bardd, roedd ganddo ef hynafiaid wrth y llath, gyda thraddodiad hir a disgyblaeth fanwl yn gefn iddo.

Yr oedd eu gwir elynion hwy yn eu gwlad eu hunain, gorthrymwyr eu tadau a threiswyr eu hynafiaid.

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Cyfrifid ach dda yn gofnod o fawredd hynafiaid ac yn fodd i feithrin rhinweddau'r goreuon o'r rheini.

Ei gartref ef a rhai o'i hynafiaid oedd Llwyngwychwyr, y ffermdy mewn cilfach gysgodol rhyw ychydig bellter i gyfeiriad Llanwrtyd o dre Cefn Alltwinau.

O'r safbwynt hwn roedd fy hynafiaid yn llygad eu lle, ac fe wyddai pob Cymro uchelgeisiol-faterol hynny hefyd.

Ar un adeg roedd hi'n anodd iawn i lenor o Gymru yn sgrifennu yn Saesneg gael hynafiaid fel hyn - yn sicr, nid hynafiaid mo Herbert a Vaughan, a dim ond soffistigeiddrwydd academaidd yw ceisio'u galw yn Eingl-Gymry.

I'n hynafiaid, fodd bynnag, roedd gosod ysgol yn erbyn mur yn ffurfio triongl ac yn cynrychioli arwydd y Drindod.

Arni hi yr oedd y bai i gyd, arni hi a'r dymer wyllt honno a etifeddodd gan hynafiaid Ffrengig ei thad, meddai ei mam.

Felly, nid balchder yn ei hynafiaid nac unrhyw awydd i sefydlu cyff breiniol iddo ef ei hyn a'i dylwyth o gyfnod Gruffudd ap Cynan ymlaen oedd yr unig fwriad a goleddai Syr John Wynn pan ysgrifennodd ei History of the Gwydir Family.

Roedd gan y llenorion Cymraeg hynafiaid.

Yn wir, dywedodd bethau digon cas yn aml iawn am ei hynafiaid.

Anogwyd aelodau'r coleg i offrymu gweddi%au'n barhaus dros enaid y Brenin Edward I, yn ogystal ag eneidiau ei hynafiaid a'i ddisgynyddion.

Y tebyg yw, fodd bynnag, fod y goel yn llawer hyn na hynny - atgof o gred ein hynafiaid yn nuw'r goedwig.

Rhoddir gwybodaeth am ei hynafiaid anniddig yn Eifionydd, y gymdogaeth y maged ef ynddi, a'i gysylltiad â Chrug yn Isgwyrfai a Dolwyddelan yng nghwmwd Nanconwy.