Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hysbysu

hysbysu

Derbyniwyd llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu nad oedd yn dymuno ymyrryd yn y cais ac yn gofyn i'r Cyngor hwn ei benderfynu.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

Prin amser oedd gennyf i gadw fy het ac eistedd wrth fy nesg cyn i Sam ddod i fyny'r grisiau i'm hysbysu bod Matthew Owen wedi cyrraedd.

Mewn achosion o'r fath bydd y Cynhyrchydd yn hysbysu Equity cyn terfynu'r Cytundeb.

Mewn achosion o'r fath bydd y Cynhyrchydd yn hysbysu Equity cyn dileu neu ohorio.

ch) Hysbysu'r Cyfarwyddwr neu'r uwch aelod nesaf o'r staff am y digwyddiad gan gadw cofnod o'r holl fanylion er mwyn cyfeirio atynt.

Yn ogystal â hyn bydd arddangosfa symudol yn ymweld â threfi a phentrefi penodol yn mhob cyngor cymuned a thref yn ystod y cyfnod ynghyd â phamffled yn egluro pwrpas a swyddogaeth y cynllun lleol ynghyd â hysbysu'r cyhoedd o'r arddangosfa yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y Dosbarth.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Wedi dadansoddi helynt y claf byddai'n ei hysbysu o'r moddion y bwriadai eu paratoi ar gyfer y salwch.

Mae'r Undeb yn credu'n gryf y dylai'r clafr barhau i fod yn glefyd sydd raid ei hysbysu i'r awdurdodau ac y dylai fod pwerau i rwystro symud defaid er mwyn gallu trin diadelloedd sydd wedi eu heintio.

Cangen Llanllechid: Mynegodd cynrychiolwyr Cangen Llanllechid eu tristwch wrth hysbysu'r pwyllgor rhanbarth fod y gangen am gau.

Yn wir, ar brydiau, hongiai posteri yma a thraw ar furiau'r ardal yn hysbysu cynnwys cyffrous(?) yr Herald yr wythnos honno.

Fel hyn oedd hi ymhob stesion trwy Brydain ond roedd digon o arwyddion yn hysbysu gwahanol nwyddau rhyw gwmni neu'i gilydd.

PENDERFYNWYD hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru na fyddai ychwanegu camau biwrocrataidd i'r broses gynllunio yn datrys problem dylunio.

Mae angen i'r Cyngor hysbysu'r perchennog o hyn, neu gellir codi tâl am eu dychwelyd.

b) Roi arwydd i gydweithiwr i hysbysu'r Heddlu a'r Frigâd Dân ar unwaith ac os oes modd, i wrando ar y sgwrs ar ôl gwneud hynny.

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu, fod y gofgolofn i'r Dywysoges Gwenllian wedi ei chodi o'r diwedd, yn Sempringham.

Hwyrach i Gerallt Gymro eu hysbysu o'r wyrth a ddigwyddodd yn Llanddewi Brefi pan bregethodd Dewi yno.

Wedi i'r undebwyr nodi eu hatebion ar bapur, croesodd un o brif weision suful y Bwrdd yr heol i Downing Street, i hysbysu'r Prif Weinidog am safbwynt yr undebau.

(d) Cau Swyddfa'r Arolwg Daearegol yn Aberystwyth CYFLWYNWYD llythyr Mr Cynog Dafis AS yn hysbysu bod yr Arolwg Daearegol yn bwriadu cau'r swyddfa uchod er mwyn arbed swm cymharol fechan o arian.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Cais llawn - adeiladu 'booster' i gronfa ddŵr presennol Cais llawn - lolfa haul yng nghefn tŷ rhes Cais llawn - estyniad i swyddfeydd Cais llawn - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf Cais adeilad rhestredig - newidiadau mewnol ac allanol i Neuadd y Dref a chreu canolfan dehongli ar y llawr isaf (ii) Hysbysu'r Bwrdd Trydan nad oedd gwrthwynebiad i'r cais canlynol am linellau trydan:- Cais llawn - ail-leoli llinellau trydan

Ond nid oedd wedi torri pob cysylltiad a'i hen gynefin: roedd ganddo ryw gyfaill neu'i gilydd ymysg is-olygyddion y rhan fwyaf o'r papurau cenedlaethol, a phan ffroenai stori leol y gellid ymestyn rhyw gymaint ar ei diddordeb, ai ar y teliffon i'w hysbysu, a chael punt neu ddwy am ei drafferth.

b) Unwaith y mae'r holl staff/ymwelwyr wedi dod allan yn ddiogel o'r adeilad, mae'n rhaid hysbysu'r Heddlu a'r Frigad Dân ar unwaith yn y modd diogelaf agosaf.

Yna, un bore ym mis Rhagfyr, daeth llythyr i'w swyddfa i'w hysbysu y byddai'r Llys Apêl, ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, yn rhoi ystyriaeth buan i apêl Lewis.

Aeth Edward ar ei union at y ffôn i hysbysu'r heddlu ond ni wrandawai neb arno.

Gyrrwyd swyddog o'r fyddin yn ei gar swyddogol i fyny'r cymoedd fesul un, i hysbysu'r naill deulu ar ôl y llall fod rhaid iddynt ymadael â'u cartref, er mwyn i'r fyddin symud i mewn.

Pum mlynedd o garchar i chi am beidio â hysbysu'r awdurdodau am weithred derfysgol.