Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

hysgwyd

hysgwyd

Fe gafodd purfa olew enfawr Texaco ei hysgwyd gan gyfres o ffrwydradau ychydig oriau ar ôl storm fellt a tharanau.

Ar ôl hanner awr o gael eu hysgwyd yng nghefn y fan roedd yr ewfforia'n prysur ddiflannu.

Cariai ei gwpan gyda'i dun bwyd mewn bag, a châi ei llond o ddwr poeth o gwt injian y bonc lle y digwyddai fod yn gweithio, yna fe wagiai hanner llond tun oxo o de a siwgwr yn gymysg ar ben y dwr a gosod ei law yn dynn dros y gwpan a'i hysgwyd yn iawn, ac er i'r dail fod yn nofio ar yr wyneb fe âi'r cwbl i lawr--ond y rhai a lynnai wrth ei fwstas.

arwyddlun o'r hil archolledig oedd y Cripil, y llwythau hynny o bobl y rhoddai Elystan unrhyw beth am allu eu hysgwyd o'u diymadferthwch a rhoi anadl newydd ynddynt.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

"Y...nid chi 'dy'r dyn diarth sydd wedi prynu'r Nefoedd 'ma?" "Ia...gwaetha'r modd." "Falch ofnadwy o'ch cyfarfod chi," a gwthiodd Elis Robaitsh ei law fawr drwy ffenestr y car i J.R gael ei hysgwyd hi.

Y mae o i gyd wedi syrthio i ffwrdd wrth i'r ceir gael eu hysgwyd a'u sgytian wrth deithio'n gyflym dros y wynebau geirwon ac amrwd hyn.

Estynnodd ei llaw i'w waelod, tynnu'r anrheg allan a'i hysgwyd wrth ei chlust.