Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

iard

iard

A dyna pam yr oedd Malcym yn gorfod cario pwcedeidia o ddŵr o'r tap yn y sied ddefaid ar draws yr iard i'r camal sychedig yn y beudy.

Mae nifer o'r mannau nythu (fel tyllau mewn hen goed) yn prysur ddiflannu ac, yn sicr, ni ellir, yn ôl pob tebyg, ddod o hyd iddyn nhw yn iard yr ysgol.

Ymddangosai mai'r ateb oedd cael rhediad o bibellau a'u gosod oddi wrth y rhan a oedd wedi ei neilltuo ar gyfer chwaraeon, mewn cornel o'r iard chwarae.

Pan ddaeth yn amser i ni fynd allan i'r iard, daeth nifer o fechgyn o'm hamgylch, fel yn y bore, gan ddangos diddordeb ynof, fel pe bawn yn fod o ryw fyd arall, a dechreusant fy herio fel o'r blaen.

Dal i'w hanwybyddu a wnaethom nes gweld, er mawr ddychryn inni, ei bod hi'n dod allan drwy'r ffenestr ac yn camu ar do y cwt bychan a safai dan y ffenestr ac a redai i lawr o fewn ychydig i lefel yr iard.

Sylweddolodd Jock a minnau mai un o'r sefydliadau 'milwrol' hyn oedd yr adeilad yng nghwr yr iard.

Fei sefydlwyd yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy yn 1980 gan Myrddin ap Dafydd ac mae'r prif waith yno mewn ffatri yn Iard yr Orsaf o hyd.

Erbyn canol y bore yr oedd yr haul yn ei anterth, ac aeth awyrgylch yr iard yn drymaidd a chysglyd eithriadol, a'r tawelwch hefyd yn gwneud pethau'n waeth.

Mae gan nifer o'r gwahanol fathau o adar hoff fwydydd, felly gallwn eu hannog i ddod i mewn i iard yr ysgol trwy dyfu mwy o'r planhigion hyn:

Daeth yn amser i ni gael ein gollwng i fynd allan i chwarae, ac ofnwn gyfarfod yn yr iard â phlant yr ysgol heb athro yn y golwg.

Nid oes pridd yn yr unig fan sydd ar gael - iard chwarae darmacadam yn unig.

Dilynodd Doctor Treharne y sarjiant ar draws iard goncrid, lydan at adeiladau wedi eu paentio'n llwyd, diflas.

Cysgu'n y llofft stabal oedd y gweision un noson ychydig wedyn, pan ddeffrowyd pawb ohonynt gan sūn ceffylau'n carlamu i'r iard, ac yna sūn ratchet brêc yn cael ei dynnu.

Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.

Ar ôl mynd mewn i'r adeiladau, oedd yn glwstwr gyda'i gilydd y pen draw i'r iard, curodd y Sarjiant ar ddrws a'r enw "Cyrnol Grant" arno.

Os mai du oedd iard yr ysgol, glas oedd yr awyr o gwmpas, a byddai angen llond tram o 'bleeps' i hyd yn oed ymdrechu cyfleu adwaith y gwerthwr glo i'r rhaffo disymwyth.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Yn achos Ysgol Waterston, roedd yn ateb y broblem o ddiffyg lle i blannu ar safle ysgol fechan nad oedd ganddi ond iard chwarae fechan.

Ymhen yr awr gofynnodd y management inni symud lawr i'r iard gerllaw ac aros tu ôl i'r rhwystrau yn gymysgedd o gyfryngwn a phobl leol yn yr haul.

I iard y cymerwyd ni, y tu ôl i un o strydoedd cefn Palembang, lle'r oedd tomen o hen haearn, a phob rhyw geriach.

Dyma Jim ar ei hyd ar y llawr, y rhaff yn cordeddu o gwmpas ei gorff a'r glo'n glachdar ar hyd yr iard.

Fe'n cludwyd i iard gefn yng nghanol tref Palembang, heb fod nepell o'r becws yr oedd gennyf atgofion mor hyfryd amdano.

Roedd ci gan y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn yr ysgol a bydden nhw'n eu brolio a'u cymharu wrth siarad yn yr iard.

Neilltuwyd rhan arall o'r iard ar gyfer trigolion y stryd agosaf.

Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.

Fe'i sefydlwyd yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy yn 1980 gan Myrddin ap Dafydd ac mae'r prif waith yno mewn ffatri yn Iard yr Orsaf o hyd.

Pe baem yn caniata/ u iddi ddod i'r iard byddai bron yn amhosibl iddi fynd yn ôl, a phe gwelid hi yno efo Jock a minnau byddai ar ben arnom.

Y funud honno cyrhaeddodd Fford Escort gwyrdd gola yr iard yn ara deg fel car cnebrwng ac wedi ei fwytho fel cath.

Dywedais wrth Jock am gadw'i lygaid yn agored rhag i 'Gwep Babi' ddod yn ôl, a rhuthrais at waelod y to lle'r oedd y ferch erbyn hyn yn gwyro trosodd, a bron syrthio bendramwnwgl i'r iard.

"Dyna y gwyddwn i ymhle'r oeddach chi'n byw, i ddweud wrth yr hogia yn yr iard, er na wyddwn i mo'ch enw chi."