Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ias

ias

Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.

"Mi ddois i'n gynnar, a wyddwn i ddim yn iawn lle i fynd, ond 'roeddwn i wedi arfer dwad i fan 'ma at Gwyn Gallwn deimlo rhyw ias yn cerdded y ddau wrth i mi sôn am y marw.

Tueddu i ddelfrydu'r testun yr oedd ygwaith a gadael argraff o ddiffyg bywyd a'r ias oedd, efallai, heb ei llawn fynegi.

Mae hurling yn gêm roes ias yng nghalon y Gwyddyl ers mil o flynyddoedd.

Fis Medi mae'r ias honni ar ei dwysaf pan fydd y ddau dîm gorau yn Iwerddon yn cwrdd yn Groke Park i frwydro am y gwpan McCarthy.

Hen lanc yn byw ar ei ben ei hun mewn bwthyn ar gwr Coed y Mynydd ac yn dod a'i ddillad o'r siambar i'r llawr ar foreau barrug er mwyn cael sefyll o dan y golau trydan i wisgo amdano a'i deimlo 'yn torri'r ias yn gynddeiris'.

Er hynny nid oedd un ohonynt nad oedd rhyw ias o ofn yn cerdded drwyddo fel y gwylient, a'u llygaid ar y tyllau yn y mur, am unrhyw arwydd fod yr ymwelydd wedi cyrraedd.

Aeth ias oer dadrithiad trwof fel yr argoel gyntaf o'r ddannoedd, yn annisgwyl, yn ddigroeso, yn awgrym o drwbl i ddod.

"Tria ias o ferw arni hi," medda fo fel 'na.

Yr oedd tri ateb derbyniol i gwestiwn 5 : Y bardd, Gwyndaf, gyfansoddodd y geiriau yr ias yng Ngruddiau'r Rhosyn yn wreiddiol, mabwysiadwyd y geiriau yn deitl i'w nofel gan Gwyn Llywelyn a'r cymeriad yn y nofel a deimlodd yr ias oedd Alun Edward Lloyd.

Hwre!' gwaeddem ninnau, yn gwingo yn ein cadeiriau gan bleser ac yn ymbaratoi am yr ugeinfed tro i glywed yr ias yna i lawr y meingefn.

Ffugio bod yn fyddar ac yn ddwl a gwrando ar bob si yn y fangre dlodaidd honno!" "A thra byddi di yno, Gwgon, mi fydda' innau yn gyrru'r ias i gerdded ac yn dilyn trywydd yr amserau." "Siort ora' Elystan, ond wnawn ni'n dau byth sbi%wyr fel Cellan Ddu.

'Gwthiodd Iestyn ei ddwylo yn ddwfn i boced ei gôt ac aeth ias fach o gryndod trwyddo.

Wedi teithio am ysbaid gyda'r ddau yn syllu'n ddiymateb drwy'r ffenest ar y wlad yn gwibio heibio, mentrodd Merêd dorri 'r ias.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).