Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ieuainc

ieuainc

Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.

'Yn ddiweddar iawn, bid siŵr, oblegid masnach feunyddiol gyda'r Saeson, a'r ffaith fod ein dynion ieuainc yn cael eu haddysg yn Lloegr, a'u bod, o'u plentyndod (a siarad yn gyffredinol) yn fwy cyfarwydd a'r Saesneg nag a'u hiaith eu hunain, fe oresgynnwyd ein hiaith ni gan rai geiriau Saesneg, a chan ffurfiau Saesneg, ac y mae hynny yn digwydd fwyfwy bob dydd' meddai.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

I ni aelodau ieuainc y Blaid yn y tridegau, JE oedd y Blaid a'r Swyddfa ym Mhendref oedd ein Meca.

Rhaid inni gofio na ŵyr amryw o amaethwyr ieuainc a thirfeddianwyr heddiw fawr ddim am y difrod a achosai cwningod gynt.

Daw'r ail gyfeiriad o gerdd y credir ei chyfansoddi yn y seithfed ganrif, Marwnad Cynddylan, lle y disgrifir Cynddylan ap Cyndrwyn a'i feibion o bowys fel canawon Arthur fras, sef 'epil ieuainc Arthur Fawr'.

Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.

Nid oedd Bob Edwards mor alluog â'r ddau gyntaf ond llwyddodd i gadw diddordeb dosbarth niferus o bobl ieuainc o'r deunaw oed i fyny.

Yr oedd Ernest, Harri, ac un o'r boneddigion ieuainc ar y blaen.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Y pryd hynny nid oedd pobl ieuainc yn rhoi'r gorau i'r Ysgol Sul wedi cael eu derbyn, ac ysgol oedd dosbarthiadau'r bobl ieuainc i ddringo i ddosbarthiadau'r oedolion.

Tramwyai yr Yswain a'r Person, a'r hen bobol pan allent, hyd y ffyrdd, ond teithiai'r gwŷr ieuainc rhyfygus bron fel yr ehed y frân yn syth ar ôl y cŵn.

Bu Clwb Ffermwyr Ieuainc ym Mynydd Nefyn a chynhelid y cyfarfodydd yn y Festri.

Ac fe'm gwefreiddiwyd ganddi, yn y blynyddoedd ieuainc pan oedd teimladau'n rhedeg yn rhwydd.

Ar ôl hanner can mlynedd, diolch am y bobl ieuainc sydd eto yn gweithio ac yn rhoi o'u hamser i hyrwyddo'r mudiad.

Ar ran yr eglwys cyflwynodd y Parchedig Huw John Hughes ddeheulaw'r gymdeithas iddynt ac roedd ei eiriau o anogaeth a chyngor yn ysbrydoliaeth i'r gynulleidfa yn ogystal a'r bobl ieuainc.

Bu llawer o ddalgylch Papur Menai yn llwyddiannus yn Rali Ffermwyr Ieuainc Ynys Mon.

Oherwydd hynny roedd cael athrawon medrus ac enillgar i'r bobl ieuainc yn anhepgorol.

Chwithau ffermwyr ieuainc heddiw, daliwch i gynnal safon eich tir a'ch stoc, a byddwch yn barod at yr amser y daw eto barch at fyd amaeth.