Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ildio

ildio

Tawodd y dyrfa wrth weld hyn gan ildio'r groesfan a'r gatiau i'r awdurdodau erbyn naw o'r gloch.

Yr Almaen yn ildio yn Stalingrad.

Ar ôl gadael pencadlys Vodafone bydd gan y cerddwyr daith o 60 milltir o'u blaenau i Lundain lle y cyflwynir sgrol i swyddfa Paul Murphy sy'n galw ar i'r Senedd ildio'r hawl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael deddfu ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.

Mae'r Pencawr yn fodlon ildio'i ferch os llwydda Arthur i gyflawni pob gwrhydri unigol angenrheidiol ar ran Culhwch, ac mae'n sylweddoli y bydd raid iddo ildio'i fywyd yn ogystal.

Ergyd arall oedd ildio gôl wedi 25 munud, Geoff Thomas yn penio heibio Kevin Dearden.

Ond doedd o ddim am ei roi'i hun ar brawf, rhag ofn iddo ildio a rhedeg adre i nôl ei bres.

Mi wnaethon nhw ildio'r meddiant yng nghanol y cae, lloriodd y golwr Jason Jones Stepan Molokutsko a sgoriodd Molokutsko o'r smotyn.

Er gwaethaf dy ymdrech lew nid yw'r gwreiddiau'n ildio.

Yr hyn oedd yn llawer pwysicach oedd fod pump o'r wyth gêm hynny yn geme rowndie rhagbrofol Cwpan y Byd ac i Gymru fod wedi ennill pedair o'r rheini heb ildio cymaint ag un gôl.

Er iddi hithau ildio i'r demtasiwn, anaml iawn y digwydd hynny.

Gall ildio i demtasiwn, a gall trwy ei ddallineb ei hun ddilyn llwybr anghywir, gan fethu a chanfod beth yw arweiniad Duw ar ei gyfer.

Ond yr ydw i yn cofio ildio fy sedd ar fws rhag i ferch orfod sefyll ac hyd yn oed ddal drws yn agored i fenyw gael mynd drwyddo om blaen.

Mae Caerdydd wedi ildio'r fantais gartre am fod tîm Cymru angen ymarfer ar Barc Ninian y noson honno.

Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.

Barn Cymdeithas yr Iaith yw y dylai'r Senedd yn Llundain ildio'r hawl i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Go brin y credodd y fanhadlen wrth grymu i'r glaw ac ildio i'r gwres y byddai ffurf ei thyfiant rhyw ddydd yn ateb gofynion gosodreg blodau mewn dosbarth nos!

Siapan yn ildio.

Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhieni'n brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.

Er i Papua Guinea Newydd gael llwyth o feddiant yn yr ail hanner fe ddeliodd Cymru â nhw'n gyffyrddus gan ildio ond un cais i John Wilshere.

Pluen i Tinning ar dwll 16, a Howell yn ildio ergyd ar y twll blaenorol.

Sioc y diwrnod wedyn, fy nychryn fy hun wrth ildio'r un fath i'r gelyn.

Harris, fe gofir, oedd y gŵr gofnododd yn ei ddyddlyfr fel y bu iddo unwaith bron ildio i'r demtasiwn i wenu!

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Ar y llaw arall fe fyddai llawer o'r Cynghorau, a'r Quangos a'r Llywodraeth yn ddieithriad, yn dymuno i ni ildio.

Atebodd Idris hi'n bendant ac yn derfynol nad oedd am ildio'r Afal Aur, ond nid cyn i'r Ffantasia ffug afael ynddo gerfydd ei fraich i ddwyn yr afal hud.

Ildio, cydweithredu: dyna gyngor yr arbenigwyr.

Mae'n rhaid i'r cyfleus-dodau ac i gwmnïau preifat yn gyffredinol ildio i alwadau pobl Cymru am ryddid.

Y tynerwch hwnnw sy'n ildio a maddau a derbyn hanfod pobl a phethau, oedd ei disgrifiad ohono i mi un tro.

Onid oedd y Times ei hun ar ôl ymweliad â'r Albert Hall wedi bendithio llên a chân y Cymry am ei bod yn amlwg fod y Gymraeg yn ildio'n flynyddol ' ...' .

Mewn rhai o'r llawysgrifau ychwanegir un episod arall, lle cynigia Arthur, gan nad yw March na Thrystan yn barod i ildio, y dylai un feddiannu Esyllt tra fyddai'r dail yn ir ar y coed, a'r llall yn ystod gweddill y flwyddyn.

Er mwyn i'r iaith gael cyfle i ffynnu mae'n rhaid i nifer o bethau, sy'n rhan mor gynhenid o'r hen drefn, ildio.

Hitler ac Eva Braun yn cyflawni hunanladdiad, a'r Almaen yn ildio.

Ni fyn Harri ildio'i le i'r proletariat.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Yr Almaen yn ildio yn Stalingrad.

Proses o ildio, o rannu, yw priodas.

Er hynny, cafodd y Cymry gychwyn ofnadwy gan ildio cais yn y funud gynta.

Trwy nerth ewyllys a phenderfyniad di-ildio, llwyddodd i gadw'r droed faluriedig a dyfod drwy'r driniaeth yn ddiogel.

Braf iawn hefyd, gyda llaw, o%edd gwe%ld Ray Clemence, golwr Lloegr, yn ildio pedair gôl a dangos i bawb fod pob golwr yn gallu diodde pnawnie gwael!

Roedd y mwyafrif wedi arwyddo'r ddeiseb yn ildio i'r Senedd - o'u hanfodd.

Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhienin brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.

Y mae'r planedau pellaf, hyd yn oed, wedi gorfod ildio'u cyfrinachau i lygaid dyn.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Mae'n rhaid i gynghorau ildio, mae'n rhaid i'r Quangos ildio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth ganolog ildio i Gymru ac i'r iaith Gymraeg gael ymryddhau.

Cychwynnodd gyda phum pelawd gan ildio dim ond pum rhediad.

Mae brwydr ffyrnig yn dilyn ac er nad oes gobaith gan eich tri gwrthwynebwr nid ydyn =t am ildio.

'Un peth doeddan nhw ddim isio'i wneud oedd ildio gôl yn y munudau cynta - sef yr union beth wnaethon nhw.

"'Rydw i wedi sefyll yn gadarn yn erbyn pob storm hyd yn hyn a tydw i ddim yn bwriadu ildio i'r gwynt hwn heno chwaith," meddai'r dderwen falch.

Gobaith Ali oedd na fyddai Fred yn barod i dderbyn y pedwar plentyn yn ogystal â Mary, na Mary'n fodlon ildio'r plant er mwyn Fred, ac y deuai'r gyfathrach rhyngddynt i ben yn raddol, fel y gwnaethai gyda Martin Charles.

Eto, ni chofiaf weld Daniel yn ildio i'r gwres o gwbl, eithr yr oedd digon o ruddin ynddo i ddal ati hyd ddiwedd y twrn.

Roedd yn well inni ildio peth o'n nwyddau a chael llonydd na cheisio ymladd yn erbyn byddin rhy niferus ac yn y diwedd golli ein holl eiddo a cholli ein bywydau yn ogystal.

Ond dydyr Eidal ddim ond wedi ildio dwy gôl drwyr holl gystadleuaeth.

Doedd dim amdani ond rhoi'r derbynnydd i lawr ac ildio'i lle.

Mae'r Cymry Cymraeg wedi eu cyflyru tros y canrifoedd i ildio o flaen siaradwyr Saesneg.

Gallai hithau wedyn gynnal sgwrs fach bleserus efo Owain, oedd bellach bron yn bedair oed ac yn medru mwynhau sgwrs gall efo'i fam, nes iddo yntau hefyd ildio i gwsg.