Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

inn

inn

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

Rhaid croesi Bwlch Maloggia (Maloja) dros ugain milltir i ffwrdd ym mhen uchaf y dyffryn, i gyrraedd Chiavenna a Milan ond nid yw'r ffordd fawr yn gorfod ymdrechu yr ochr yma i'r bwlch hwnnw, dim ond dilyn cwrs Afon En (yr Inn yn Awstria) ar ei thaith dros y dolydd eang ac, yn agosach i'w tharddiad, trwy gyfres o lynnau mawr heb eu hafal.

Yn yr un flwyddyn, fe gafodd ardaloedd Capel Curig a Beddgelert eu trawsblannu i China dros dro wrth i Ingrid Bergman, seren Casablanca, ddod draw i Eryri i bortreadu'r genhadwraig Gladys Aylward yn The Inn of the Sixth Happiness.

Enw tafarn felly oedd Tafarn y Bwncath yn wreiddiol - tafarn a alwyd yn Boncath Inn mewn oes ddiweddarach.

Un noson, ar ol llaetho'n o drwm ar ffroth ffrwyth yr heiddan yn y Spite Inn, ni bu deuawd hapusach yn mynd am eu cartra na Rondol a Begw.