Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

islaw

islaw

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Disgynnodd yr ordd hefyd ar y ddaear wrth ei ymyl gan agor ffos ddofn fel archoll yn y pridd islaw.

Ffurfiwyd y Garreg Galch pan oedd y darn yma o'r wlad o dan y môr yn y cyfnod Carbonifferaidd, ac yn gorwedd ychydig islaw'r cyhydedd.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Islaw Pont Llangefni mae'r afon yn llifo'n araf a dioglyd ar draws Cors Ddyga a Morfa Malltraeth i'r môr.

(b) Papur Ymgynghorol y Llywodraeth ar yr Arfordir (i) Rheolaeth Datblygu Islaw'r Llinell Drai (ii) Rheoli'r Arfordir CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Islaw'r dref ceir y pyllau hyn: Pwll Police Station, Pwll Gro, Pwll Wil Wmffra a Phwll Gorsbach.

"Ni chydnabyddir yn y Ddeddf, yn y targedau cyrhaeddiad nac yn y rhaglenni astudio, fod man cychwyn nifer o'r disgyblion yn bell islaw'r disgwyl yn gyffredinol.

Ond roedd y chwilen ddþr wedi cael llond ei fol ar fod yn atebol i rai islaw ei sylw; er bod y rhain yn ôl pob golwg yn ddigon pwysig i gael mynediad i'r castell ac yntau ddim.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.

Dylid sicrhau bod y deunydd organig, megis tail fferm pydredig neu fawn, tua naw modfedd islaw wyneb y pridd.

Mae'r ffigwr hwn, fodd bynnag, yn dal islaw'r cyfartaledd cenedlaethol a chyfartaledd y sir.

Er enghraifft mae cyfres o ficrofili arbennig o amgylch gwaelod y siliwm ac yn ogystal,mae'r aparatws basal sydd islaw'r siliwm yn dangos addasiad diddorol.

Gallai'r stiward, o'r bonc islaw, weld ffrynt y twr, ond ni allai weld y tu ôl iddo.

Mae rhywbeth mwy treisiol a dinistriol, ar y llaw arall, yn gorwedd islaw diwethafiaeth byd Gwilym Meredydd Jones, ac mae casineb oeraidd y stori-deitl, Chwalu'r Nyth, yn iasoer yn ei diffyg tosturi.

Ymhell islaw, i'r chwith, gwelai Glyn oleuadau tref fawr ond nid oedd ganddo syniad ymhle'r oedd.

Ymhen rhyw filltir a hanner o Abergwesyn cyrraedd unigedd Cwm Irfon; Craig Irfon i fyny ar y dde ac afon Irfon islaw ar y chwith.

Gwell gen i oedi wrth adfeilion yr eglwys islaw'r groes, Llanddwynwen.

I'r beirniad llenyddol, sydd â'i ddiddordeb pennaf mewn gwaith o safon llenyddol uchel, y mae llawer o'r defnyddiau hyn islaw sylw - ac yn gwbl deg felly.

Lischana Fy nhad a'm difethodd gyntaf - gwneud imi gymryd yn ganiataol y buasai rhywun i ddisgwyl amdanaf ac i'm hebrwng adref ym mhen draw pob taith hir ar draws y mynyddoedd: o Oerddrws i Islaw'r dref, o Lanbedr yn Ardudwy i Lanelltyd, o Gerrigydrudion i'r Ganllwyd o Gapel Curig i Groesor.

Yr hyn sy'n fy nharo i yn arbennig amdano yw'r cysondeb egwyddor ac agwedd sy'n gorwedd islaw y gwrthdrawiadau barn a wel rhai ar yr wyneb.

Cludant y cynhaeaf i daflodydd pren yng nghefn y tai i'w daflu islaw, yn y gaeaf, i'r gwartheg Simmental ar y llawr cyntaf.

Mae'r darlun byw yn yr ail baragraff yn bwysig iawn yn hyn o beth, a hefyd y llinell olaf un, lle cenir yn iach i Siôn yn y bedd islaw, yn hytrach nag yn y nefoedd uwchben.

Ni byddent hwy yn cau ac yn agor yn gysglyd fel petasent am awgrymu bod gweithgarwch anweddus y tafod islaw sylw.

Roedd twll y corn simdde'n enfawr a'r tân coed islaw yn taflu goleuni coch mewn cylch bach.