Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ithfaen

ithfaen

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

Craig o ithfaen caled yn dal ei thir yn nannedd tonnau Môr Iwerydd yw Llydaw.

Anferth o gerrig ithfaen yn sefyll ar eu cyllyll yn y ddaear yw'r rhain, wedi eu gosod yno drwy ymdrech ugeiniau neu gannoedd o lafurwyr, mae'n debyg.

Un arall oedd y Teifi, llong Capten Robert Roberts Mynytho (Robin Carmel) a ddeuai fel amryw o rai eraill i lwytho ithfaen o chwareli Llanbedrog.