Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

jam

jam

Darparodd Ram Jam a Beks gynyrchiadau safonol i'r gwrandawyr, tra cymerodd Traciau Trobwynt olwg fwy mympwyol ar y ffordd y mae cerddoriaeth yn effeithio ar unigolion drwy ganfod y trobwyntiau ym mywydau pobl fel yu diffiniwyd gan gerddoriaeth.

Brechdana' caws oedd gynnon ni'n tri, ac mi oedd Mrs Robaits wedi gneud rhai jam ac mi gawsom ni dipyn o'r rheini hefyd, a thamaid o'r deisan gymysg.

Dowch, helpwch eich hun.' Mwynhâi Dan y bara' menyn a'r jam a'r bara brith yn fawr iawn, a theimlai'n newynog ar ôl ei ginio cynnar a brysiog.

Mwyn a melys min Malen, Môr o jam yw Meri Jane!

Ond ta waeth am hynny, roedd gwen ei chroeso i mi yn jam a fyddai'n werth ei fotlio.A Gres Owan, Tyddyn Waun fyddai'n arfer dweud, 'Nid yw ein gweithredoedd da yn ddim ond yr hyn y mae'n cydwybod yn ei orfodi arnom i guddio'n gweithredoedd drwg.

Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.

Roedd rhyw fath o de i'w gael mewn pot jam Robinson; te â lliw calch arno tebyg i'r hyn y byddai fy nhad yn gwyngalchu'r beudy ag ef.

(Dyn â golwg byr, byr ganddo oedd Ifan, yn gwisgo sbectol gwydrau-gwaelod-pot-jam ac un a gonsgriptiwyd i'r gwaith oherwydd bod rhai â golwg hwy ganddyn nhw wedi'u galw i'r fyddin i yrru cerbydau rhyfel.

Maen nhw mor sbon a sydêt - bydasa nhw wedi'u dwyn i fyny mewn bambox aphot jam.

Gan Catrin Owan y cawn frechdan wrth ddwad adra o Ysgol Llanrhuddlad, cyn wynebu'r tair milltir trwy'r caeau am Frynteg lle'r oeddem yn byw.A dyna fyddai Catrin Owan yn ei ddweud wrtha'i bob dydd, 'Tasat ti yma ddoe mi fasat wedi cael jam arni!'.

Hyd yn oed a oedd yn torri'n wyn dros y cerrig roedd gwawr felen arno, ond wrth edrych ar dw^r drwy wydr pot jam roedd mor glir ƒ'r grisial.