Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lach

lach

Gyda'r pwyslais diweddar ar iechyd corff a chadw'n heini drwy chwaraeon daeth yr arferiad o smocio o dan y lach.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Fe ddaeth rhai o aelodau'r blaid swyddogol dan lach y bardd o Babydd Stephen Valenger yn ei gerdd ddychan 'The Cuckold's Calendar', ac yn eu plith yr oedd Morgan a Phrys.

Un o'r beirniaid gafodd ei feirniadu am fod yn llym ei lach ar berfformiad Cymru yn erbyn Norwy oedd cyn-golwr Cymru, Dai Davies.

Ac er bod Paul, y Sais, yn dod o dan lach yr awdur a Harri, ac weithiau'n fflipant ei sylwadau ynglŷn â'r Cymry, mae ei driniaeth ef o Greta yn wahanol iawn i driniaeth Wil o Sali, a thriniaeth Terence, ar un adeg, o Sheila.

Ond daeth trigolion Aberystwyth o dan ei lach yn waeth fyth.

'Roedd celf a fynegai Ddyheadau Cenedlaethol pobl orthrymedig dan lach y wladwriaeth.

Gyda diolch i lyfrau fel Daniel ac Eseia yn yr Hen Destament, fe aeth ati i fwrw'i lach ar Ddinas Fawr Caethwasiaeth ac ar y cyfoethogion a'r gwleidyddion ar draws y byd a fu'n ei chynnal:

Bwriai ei lach yn aml ar y 'siopau gwaith' nid yn unig am eu bod yn tlodi gweithwyr ond am eu bod yn eu cymell i ddiota ac felly yn caniata/ u i 'genllif meddwdod .

Rhan gyntaf y broses yw'r hyn a elwir yn 'côd fenthyg', sef benthyca geiriau, termau ac ystrydebau o'r iaith ddominyddol i'r iaith frodorol (sef arfer sydd wedi cael ei gondemnio'n chwyrn gan 'buryddion iaith' yng Nghymru'n ddiweddar, gyda chyflwynwyr ifainc ar y radio a'r teledu yn arbennig yn dod o dan y lach!).