Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lafant

lafant

Y berth o lafant a rhosmari yw ffrindiau mam, ac o'r Plas y cafodd hi'r planhigion gan Edmund y garddwr, a pharhânt i sirioli bywyd mam â'u persawr a'u hatgofion.

Ymhlith y planhigion prin sydd mewn perygl, rhestrir lili'r Wyddfa, a'r lafant mor unigryw, Dewi Sant.GARDD SGWARIAU NEU ARDD AROGLAU

Ymgyrchu dros fywyd gwyllt Cymru MAE perygl i lafant y môr prin, lili Eryri a phlanhigion ac anifeiliaid eraill ddiflannu am byth o Gymru os na fydd ymdrechion newydd i amddiffyn ein harfordir a'n cefn gwlad.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.