Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lanc

lanc

Hen lanc yw e, ond ma fe'n gweld popeth, ac fe alwodd arna i noson yr angladd, pan own i ar fin mynd draw i gydymdeimlo a Luned, a gweud y gwir.

'Fe werthai'r hen John Jones lyfr ar fagu plant i hen lanc fel fi!' meddai.

Dau lanc ifanc yn mynd i garu Ar lan yr afon ar i fyny Sūn cacynen yn y rhedyn Trodd hwy adre'n fawr eu dychryn.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Roedd prysurdeb cyffredinol ar y rhelyw o'r cychod drudfawr gydag ambell lanc ar ben y riging yn gosod golau neu erial.

Cododd y lleisiau yn uwch ac yn y diwedd dyma lanc yn neidio i ben wal y ffynhonnau gan daflu ei wallt cyrliog du yn ôl a chodi ei ddwrn i'r awyr.

Roedd pedwar o'r gweddill wedi mynd i ffwrdd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd ac nid oedd gan y ddau arall, gweddw a oedd wedi torri pob cysylltiad â'r byd ers i'w gŵr farw bymtheng mlynedd ynghynt, a hen lanc nad oedd Vera ond wedi bod yn gweithio iddo er mis Awst y flwyddyn flaenorol, ffôn yn eu cartrefi.

Mae'n debyg ei fod wedi penderfynu gorfodi'r ddau lanc sy'n cynorthwyo gyda gwaith y cantîn i dalu am eu bwyd.

Dyma fi'n dechrau pryfocio'r ddau lanc 'ma o Lanfairfechan trwy ddweud nad oedden nhw ddim yn 'molchi na newid o'u dillad gwaith gyda'r nos nes iddyn nhw ein gweld ni, a'n bod ni'n ein teimlo'n hunain yn genhadon.

(Troai fy nhad yn ei fedd pe gwyddai beth wy'n mynd i'w ddweud yn awr ar goedd gwlad am yr hen lanc duwiol - dyn da oedd y Parch.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Efallai mai'r hen Nan Elias oedd wedi dwndran gormod arno; y hi'n iâr un cyw ac yntau'n hen lanc, heb ddangos unrhyw awydd i adael y nyth.

Hen lanc yn byw ar ei ben ei hun mewn bwthyn ar gwr Coed y Mynydd ac yn dod a'i ddillad o'r siambar i'r llawr ar foreau barrug er mwyn cael sefyll o dan y golau trydan i wisgo amdano a'i deimlo 'yn torri'r ias yn gynddeiris'.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Trodd llawer i edrych, a gwelsant ddau lanc ifanc yn sgwrsio'n uchel gyda'i gilydd.

Ta beth, ar y stryd yng Nghaerfyrddin y clywais i lanc ifanc yn dweud gydag anghrediniaeth yn ei lais wrth un arall: Ma fen i wneud e ym mhobman.

Dyma, er enghraifft, benillion a gyfansoddwyd gan lanc cyn iddo gyrraedd ei ddeuddeng mlwydd oed, bachgen o'r enw T. G. Jones o Bontypridd,

Y cyntaf oedd Alun Owen, Penparc, Rhoscefnhir, hen lanc cerddorol.

Roedd dau lanc o'r Llu Awyr a merch o'r Groes Goch, un milwr o gatrawd Albanaidd a ni'n dau yn ysmygu.

Fel hen lanc ar y pryd prin iawn oedd fy adnabyddiaeth na fy ngwybodaeth intimet i o bobol trin gwallt merched!

Bu farw'n hen lanc.

Boddwyd dau lanc o Wyddelwern toc ar ôl cinio, sef Roberts a Hughes.