Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lannau

lannau

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

Dechreuodd yr ymgyrch gyhoeddus gyda rali fawr a drefnodd ar lannau Tryweryn, lle y rhoddais rybudd mai unig obaith llwyddiant oedd ymgyrch nerthol iawn cyn i'r mater gyrraedd y Senedd.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.

Erbyn hyn roedd y jetiau wedi glanio a thrwy'r dail gallai Elen weld y llinyn truenus o garcharorion yn cael eu gwthio tua giatau'r gwersyll newydd a oedd wedi'i agor ar lannau'r llyn.

Mae 16,000 yn dal i gael eu cyflogi yn Llanwern, Port Talbot a Shotton ar Lannau Dyfrdwy.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

wynfyd, nid dy golli di a wan Drwy'r fynwes a'r deufiniog lafnau cudd; Na Eden, nid dy golli greithia'm grudd, Ond cofio'r mwyn oedfaon, cofio man Suadau serch a swyn dy lennyrch glan Pan rodiai dedwydd ddau dy lwybrau rhydd, Yw'r aeth a wnaeth fy nydd yn fythol nos; Ni cherddaf mwy hyd lannau'r dyfroedd byw Ni chwarddaf mwy uwchben y sypiau gwin; Ond dwyn y draen a wnaf heb wrid y rhos, Am hynny gweaf gan y blodyn gwyw, Am hynny odlaf gerdd y ddeilen grin.

Eithr nid o Rufain i y daeth y mudiad yma, ond o lannau dwyreiniol Môr y Canoldir, a hynny drwy orllewin Ffrainc a Llydaw a Chernyw i Gymru.

Ceiriog oedd yn sôn am John Evans o Hafod Olau ar ochr Cefn Du yn y Waunfawr, y fo oedd y bachgen a grwydrai lannau'r Missouri a'r Mississippi.

Yno, ar lannau'r Baltig, roedd y Latfiaid hefyd yn ceisio ail-greu gwladwriaeth ond, iddyn nhw, roedd problemau dwysach fyth.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.

Hyd lannau rhynllyd Afon Daugava, roedd olion hen fawredd a dylanwad diwylliannau eraill ond, ym mlwyddyn gynta' rhyddid, roedd hi'n wlad dan warchae o'r tu mewn.

Un enghraifft oedd gwareiddiad yr Hen Eifftiaid ar lannau'r Nîl.