Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lansiwyd

lansiwyd

Lansiwyd label Boobytrap yn hwyr y llynedd, a hynny yng Nghaerdydd.

Gwnaed cynnydd ardderchog wrth ddatblygu safleoedd newyddion a safleoedd arlein eraill ar gyfer BBC Cymru dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae BBC Cymru'r Byd, ‘papur newydd' Cymraeg arlein dyddiol a lansiwyd ar 1 Fawrth 2000 eisoes yn denu ymateb gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

dadlennwyd manylion am y ganolfan addysg busnes a rheolaeth cyfrwng cymraeg pan lansiwyd cynllun strategol ar ei chyfer gan fenter a busnes yn aberystwyth.

Heddiw ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Môn, lansiwyd CD-Rom newydd o Sam Tân, y gyfres animeiddiedig boblogaidd i blant.

Gyda chasetiau a CDs yn disodli'r feinyl du, lansiwyd y record honno - gan Datblygu, Ifor ap Glyn a Llwybr Llaethog - fel y sengl Gymraeg olaf, gan ddefnyddio logo cyntaf cwmni Sain arni.

Nos Lun diwethaf lansiwyd ep newydd y grwp Epitaff o'r enw Follow Me.

Mae'r berthynas rhwng y gerddorfa a mynychwyr cyngherddau yn cael ei chryfhau ymhellach gan linell ffôn BBC Call NOW - y gyntaf o'i bath yn y DG - a lansiwyd ym mis Medi.