Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

laser

laser

Laserau tiwnadwy Un o'r datblygiadau mwyaf cynhyrfus ym myd y laser yn y blynyddoedd diwethaf yw'r laser tiwnadwy - laser lle gellir amrywio tonfedd y goleuni a ddaw ohono.

Drwy amrywio'r pellter rhwng y drychau yn y laser gellir dethol un donfedd arbennig.

Felly, nid oes angen fflachlamp mor nerthol ar y laser Nd:YAG ag ar yr un rhuddem, lle mae'n rhaid codi egni mwyafrif yr atomau cromiwm o'r lefel egni wreiddiol.

Laserau ffibrau optegol Cafwyd datblygiadau gwreiddiol iawn ym myd y laser ym maes cyfathrebu optegol.

Hefyd, drwy gyfyngu cymaint o oleuni mewn lle mor fach, canfyddir fod pwls o oleuni yn byrhau drwy groesi'r laser.

Yn ddiweddar, cynhyrchwyd laser ffibr tiwnadwy yn seiliedig ar atomau praesodymiwm a thrwy ddefnyddio neodymiwm gellir adeiladu laser pwerus iawn - mwy pwerus hyd yn oed na'r Nd:YAG ar yr un donfedd.

Er mwyn i'r laser weithio, rhaid bod mwy o atomau cromiwm yn y lefel uwch na'r un wreiddiol.

Erbyn hyn credir y bydd laserau o'r deunyddiau hyn yn disodli peth o waith y laser Nd:YAG, yn enwedig gwaith pwê er isel.

Mae byd y laser cyflwr solid yn llawn o elfennau anghyfarwydd iawn - megis neodymiwm, yttriwm, gadoliniwm ac erbiwm.

Serch hynny, gellir cynhyrchu goleuni gwyrdd o'r laser hwn drwy yrru'r goleuni is-goch drwy grisialau arbennig sy'n medru haneru'r donfedd.

I'r perwyl hwn datblygwyd y laser ffibr, sydd mewn gwirionedd yn fath o laser cyflwr solid ar raddfa fach.

Gan fod y laser mor llachar, a'r goleuni ond ar un donfedd, gellir mesur y gwahaniaeth egni rhwng lefelau â chywirdeb manwl dros ben.

Mae'n seiliedig ar grisial o ruddem, ac fel pob laser cyflwr solid, mae'n dibynnu ar gynhyrchu poblogaeth o atomau o fewn y crisial sydd ag egni uwch na'r cyffredin.

Mae pob laser yn gweithio fel hyn, drwy fod atomau'n disgyn o un lefel egni i un arall.

Cyn y gellir amgyffred y modd y mae solidau yn gallu mwynhau foltedd fel yn y transistor, neu gynhyrchu golau fel yn y laser, mae'n rhaid yn gyntaf ddeall rhywfaint o nodweddion solidau a grisialau.

Un o anfanteision arferol laser tiwnadwy yw fod rhaid cael laser arall i'w bwmpio.

Mewn meddygaeth, gellir trin staen 'gwin port' ar y croen drwy diwnio laser alexandrite fel bod y staen yn amsugno'r goleuni ac felly'n cael ei ddifrodi.

Enghraifft o laser felly yw'r un Nd:YAG, sy'n seiliedig ar grisial o yttriwm alwminiwm garnet (YAG) - deunydd digon tebyg i saffir - gydag atomau o'r metel prin neodymiwm (Nd) yn chwarae rhan y cromiwm.

Yn hytrach na chrisial, defnyddir fel rheol ddeunydd ar ffurf gwydr yn sail i'r laser ffibr.

Bydd yr atomau Nd yn gollwng goleuni laser drwy ddisgyn i lefel egni ychydig uwchlaw'r gwreiddiol, yna'n disgyn ar unwaith i'r lefel wreiddiol heb ollwng goleuni.

Heblaw am y deunydd, mae'r egwyddorion hyn yn debyg iawn i rai laser rhuddem - ond y mae gwahaniaethau pwysig rhwng y laser ffibr a rhai cyflwr solid.

Ychydig iawn o'r atomau sydd yn y lefel laser isaf ar unrhyw bryd, ac nid oes angen cymaint o hwb i sicrhau fod mwy ohonynt yn yr un uchaf.

Y laser cyflwr solid Dyma'r math hynaf o laser.