Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lasgangen

lasgangen

Bydd yr hen dwb golchi sy'n nghefn y ty yn cael ei sbyddu am bryfaid genwair bach rhai rwyf wedi eu casglu'n ofalus drwy'r haf - a dyna fi'n barod am ymweliad â'r Ddyfrdwy i drotio am lasgangen yn ystod y tri mis hwn!

Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.

pwysau trwm digamsyniol y lasgangen yn tynnu y ffordd yma a'r ffordd acw ...

Perthyn i'r pysgod gêm - yr eog a'r brithyll ac ati mae'r lasgangen (grayling) ond rhyfeddod y rhyfeddodau yw fod ei batrwm epilio a chylchdro'i fywyd fel y pysgod crâs!!

Gwn ei bod yn ffasiynol pysgota pluen - wleb a sych am lasgangen - a hyd Ddiolchgarwch caf ddileit wrth wneud hynny.