Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lasiad

lasiad

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Pan oedd neb o gwmpas, mi'r oedd pethau'n go dawel, er yn amal mi fyddai 'na ryw gnofa eiriol rhwng y ddau, ond y tro yma roedd y cydddealltwriaeth mor berffaith a chrefydd y Piwritaniaid, ac roedd 'na obaith am lasiad yn y fargen, 'dach chi'n gweld.