Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lathen

lathen

Roedd hi'n amhosibl adnabod y cynhwysion gan mor gyflym y digwyddai popeth, a'r crochan fel pe bai yn codi lathen neu ddwy o'r llawr i'w derbyn.

Doeddwn i ddim yn cyd-fynd ag edifeirwch erchwyn gwely, rhyw yswiriannau munud olaf, lathen o glwydi uffern.

Pwyntiodd yn araf at frigyn oedd o fewn dwy lathen i ni, a dyna lle roedd ceiliog Coch y Berllan yn sefyll yn ei holl ogoniant.

Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.

Crafangodd am ei lyfryn oedd ar agor a'i ddalennau'n chwifio'n y gwynt lathen neu ddwy oddi wrtho ar ganol y ffordd ond roedd Nel yno o'i flaen i'w gicio dan olwynion lori a'i sbydodd yn dipiau.