Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lawenydd

lawenydd

Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu'r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i'r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon.

"Ddaw Emrys allan i chwarae?" oedd y cwestiwn a glywais yn llais Capten, a neidiodd fy nghalon gan lawenydd.

Roedd gwybod am ei berthynas ag Ifan Jones hefyd wedi ychwanegu at ei lawenydd ac at ei bryder.

Ar ei fynediad i'r ystafell gafaelodd yr Yswain yn ei law, ac ysgydwodd hi yn galonnog a chroesawgar, a datganodd ei ofid am ei golled, a'i lawenydd am nad oedd Harri wedi derbyn niwed, a dywedodd yn ddistaw yn ei glust: `Oni bai mod i'n gwybod fod ti wedi cael llawer o arian ar ôl dy dad, mi f'aswn i yn dy helpio di i neud y golled i fyny.

Ond, na ū 'r un arwydd o lawenydd na siom, dim cysgod gwên na gwg ū dim byd cynt, yn ystod y chwarae, nac wedyn.

Byddai wedi bod yn ddathliad llawer mwy rhwysgfawr, yn llawer llawnach o wir lawenydd a gobaith, oni bai am golli'r gweinidog, ac oni bai am y rhyfel.

Bu'n dyst i fwrlwm rhyfeddol iawn: 'Yma', meddai, 'y mae fy enaid wedi teimlo ei ingau dwysaf a'i lawenydd penaf.' Y diwydiant haearn oedd yn teyrnasu yn ystod ei gyfnod ef yn Nhredegar, a rhoes Nefydd ddisgrifiad byw o brofiad beunyddiol y gweithiwr haearn yn Nyffryn Sirhywi:

O flaen pob peth dyro i ni wir lawenydd, wrth i ni fyw un dydd ar y tro.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Yr oedd cael cwyro'r edafedd a phwytho'r cynfas yn dasg o lawenydd ar ôl segurdod cysglydd y gell gosb Pan oedd Myrddin Tomos ar gysgu un noson deffrowyd ef gan sūn gweiddi ac ysgrechian yn y gell uwch ei ben.

Maent yn fynegiant o ofn cynhenid dyn; ei ddychymyg rhyfeddol; ei awydd angerddol am wybod yr anwybod; a'i ddyhead oesol am lawenydd a bodlonrwydd.

Ond fe ellir crio o lawenydd ac o ryddhad weithiau.

Ond i ddynion a merched, unwaith y deuai'r haf, nodyn o lawenydd yn unig a genid.

Llamai'r carcharor gan lawenydd am ei fod yn cael dyfod i'w hen gell gartrefol, a neidiai fel hydd.

Oherwydd hynny gallai ddeall a chyfarwyddo'r gŵr ieuanc a fyddai'n ymladd â themtasiynau ac amheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.