Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ledaenu

ledaenu

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

A chan fod archwiliad meddygol rheolaidd ar y merched hyn, yr oedd y drefn swyddogol yn gwarchod rhag i glefyd gwenerol ledaenu ymysg y milwyr.

Dyna oedd y waedd fel y rhedai rheilffyrddwyr yma a thraw gan ledaenu gorchymyn yr undebau.

Ar sail canlyniadau'r arolwg, dylid anelu at sefydlu cyfundrefn o ledaenu adnoddau sydd yn gost-effeithiol a sydd hefyd yn sicrhau y defnyddd helaethaf o'r holl adnoddau a gynhyrchir gydag arian cyhoeddus.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Mae'r potensial gan dechnoleg i hwyluso defnyddio mwy nac un iaith -- ond ar hyn o bryd rydym ni yn defnyddio technoleg i ledaenu'r gagendor rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Mae system ddosbarthu a marchnata y Cyngor Llyfrau hefyd ar gael i ledaenu gwybodaeth am yr adnoddau.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

* penderfynu sut i ledaenu'r wybodaeth am eich lleoliad.

Ar ôl llunio polisi, y cam nesaf oedd ei ledaenu a'i boblogeiddio er mwyn ei gyflwyno'n effeithiol i'r genedl.

Gall pwls digon byr dramwyo pellter hir o ffibr heb ledaenu, sydd o fantais amlwg yn y maes cyfathrebu.

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.