Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

leddfu

leddfu

Dioddefant o'r hyn a elwir yn post-herpetic neuralgia, ac mae'n anodd ei leddfu â chyffuriau.

Pan weithiai ar y meysydd a dyfod chwant bwyd arno cyn amser cinio neu amser te, ysmygai sigaret i leddfu'r chwant.

Fe godais o'r gwely, gosodais botel dwr poeth ar y man priodol ac fe gymerais Aspirin i leddfu'r boen.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

Gall bod dau darddiad o'r enw Cardamine, un yn golygu berwr dwr oherwydd blas cyffelyb y dail a'r llall oherwydd ei allu honedig i leddfu anhwylder y galon.Cyfeiria'r pratensis at y gweirgloddiau.

Rhus toxicodendron yw'r eiddew wenwynig - efo deilen fel meillion yn sgleinio o goch - ac os cyffyrddwch â nhw mae'r dolur yn waeth ac yn ffyrnicach na'n danadl poethion ni - ac yn cymeryd amser hir i leddfu.

Canolbwyntiai fwy ar ffendio asbrin i leddfu andros o gur pen.

Drwy gymorth Grant yr Iaith Gymraeg, dan nawdd y Swyddfa Gymreig, sicrhawyd cyflenwad cynyddol o werslyfrau mewn amrywiaeth o feysydd i leddfu rhywfaint ar anghenion addysg Gymraeg.

Nawddsantes gwragedd beichiog oedd Margred ac arferai gwragedd apelio ati i leddfu eu gwewyr esgor er mai morwyn oedd Margred.