Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ledrod

ledrod

Un o'u ffyrdd hwy oedd Sarn Helen sy'n rhedeg dros y bryniau o Lanymddyfri i Lanio cyn troi a mynd yn syth i gyfeiriad y gogledd at Ledrod.

Bu pobl yn byw yma ers yn fore iawn, ac y mae olion o Oes yr Haearn, bedwar can mlynedd cyn Crist, yn profi iddynt dderbyn eu cynhaliaeth o'r tir a'u hamddiffynfa yn yr hen gaerau a godwyd ar hyd a lled sir Aberteifi, a rhyw chwech ohonynt ar lannau Wyre o Ledrod i Lanrhystud ac un o fewn i'r plwyf, sef Caer Argoed.