Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lefaru

lefaru

A hyd heddiw, er yr holl ymdrech gynnar, fe fyn ymadroddi o'r fath frigo o dro i dro wrth i mi lefaru Saesneg yn enwedig fel yr wyf yn heneiddio.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Cyn y gallai'r Blaid fod yn rym yng Nghymru ac ennill iddi'i hun yr hawl i lefaru dros Gymru gyfan, fe ymresymid, byddai'n rhaid iddi ennill yr ardaloedd di-Gymraeg, a golygai hynny symud prif ganolfan ei threfniadaeth yno.

Ym marn Chomsky, nid disgrifio'r hyn sydd eisoes wedi ei lefaru yw unig swydd gramadeg ond hefyd roi cyfrif am yr hyn y gellir ei lefaru - ei genhedlu - yn y dyfodol.

Ond dull unben o lefaru yw hwn mewn gwirionedd.

Pan ddywedaf wrth y drygionus, , a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Yr oedd i lefaru le anolog yn yr ymdrech honno, wrth gwrs; gwiriondeb llwyr fyddai bychanu'i ran.