Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

leia

leia

Rown i'n meddwl y bydde hi'n newid trefn nifer o bethe - o leia yn cael gwared ar gader Madog - ond na, roedd hi am adel popeth fel yr oedden nhw, am y tro.

Mewn chwiniciad roedd gohebydd teledu o'r Unol Daleithiau wedi gweiddi arno - `Mr President can you confirm that the talks are going well?' Roedd pawb arall yn ddiolchgar fod o leia un beiddgar yn ein plith ni.

Roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg ac o leia wnaeth Abertawe ddim colli am y pedwerydd tro yn olynol.

"Y polisi mwya' effeithiol yw glynu at yr egwyddor fod pawb yn adnabod pawb; mae'n well na dibynnu ar dechnoleg yn unig." Ar ôl Nottingham, mae Ysbyty Mynydd Bychan, o leia', yn gwneud yn siwr fod unrhyw rybuddion yn mynd i dadau hefyd ...

Diolch i ti am y caredigrwydd hynny tuag ati, o leia - mae'n siŵr y byddai hi'n gwerthfawrogi hynny o gyfeillgarwch oddi wrth ei ffrind." "Mae'n amlwg fod y syniad hwnnw wedi croesi dy feddwl di, neu faset ti ddim wedi son am y peth, felly paid a bod mor hunangyfiawn gyda fi.

Ni fydd mewnwr Llanelli, Guy Easterby, yn gallu chwarae am o leia chwe wythnos ar ôl torri ei goes yn erbyn Castell Nedd ar Y Strade echdoe.

Fel mam fy hun, fe allwn o leia', geisio dychmygu hynny.

Mae'n amlwg, felly, bod o leia' ddwy elfen yn ganolog wrth drafod gohebu tramor: yn gynta', natur y gohebydd ei hun; yn ail, y ffordd y mae'n cyflwyno'i neges.

Dydw i ddim yn disgwyl i chi ymddiheuro am eich ymddygiad haerllug ond, o leia, fe fedrech chi egluro." "O," ochneidiodd yntau, a dechrau siarad fel petai'n siarad â phlentyn.

Bydd y tîm pêl-droed cenedlaethol yn ceisio ateb beirniadaeth a sicrhau pwynt o leia yn y gêm yn erbyn Gwlad Pwyl yn Warsaw, heno.

O leia', 'roedd yn hawdd gweld hynny neithiwr.

'Diawl, tydyn nhw'n ddau o betha' del, hogia.' 'Wel o leia', 'ngwas i, ma'r hwch yma a finna' yn dal hefo'n gilydd.'

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

Rhwydodd Jason Bowen wedi o leia 12 pas gan yr ymwelwyr - Leo Fortune-West yn rhoi'r bas ola iddo.

Wn i ddim sut y gallan nhw gysgu'n dawel fyth eto." "Ond o leia mae ganddyn nhw ei gilydd, lle nad oedd ganddi hi neb iddi hi ei hun.

Pan ddaethon nhw a Dalier Sylw a Made In Wales i ben dywedodd Cyngor y Celfyddydau y byddai yna o leia ddeunaw o ddramau newydd yn cael eu llwyfannu.

Chesterfield oedd ar Barc Ninian ddoe - y tîm sy ar frig y drydedd adran, ar hyn o bryd o leia - a roedd hi'n gêm i'w chofio.

Mae hi mor brydferth yna, heb ei gyffwrdd gan law dyn, fel 'tae, neu o leia mi ddylia fo fod heb ei gyffwrdd.'

Nid yw'r Gymraeg yn iaith waharddedig ac y mae pob llywodraeth Brydeinig o leia'n rhoi rhyw ystum o gefnogaeth iddi.

Mae gan Bellamy gytundeb pedair blynedd gyda chlwb Highfield Road - ac, yn gyhoeddus o leia, mae hi'n ymddangos y bydd yn parchu'r cytundeb hwnnw.

Mi faswn i wedi disgwyl i un o'r staff o leia' holi 'helô, pwy ydach chi?' Mi fydda' i'n mynd yn ôl atyn nhw a holi pam fod hyn wedi digwydd.

Ar ôl llaw-driniaeth echdoe maen awr yn sicr y bydd Taylor mâs am o leia chwe wythnos, ac fe allai fod mâs am gymaint â thri mis.

O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.

Bydd angen pedwar pwynt o leia arnyn nhw o'r ddwy gêm nesa.

Mae'r clwb ar werth, ond yn ôl y prif weithredwr presennol, Mike Lewis, fydd y clwb ddim ar werth o leia tan ddechrau'r tymor nesa.

Cafodd wybod y byddai yno am dridie o leia, yn dibynnu ar gyflwr y swog.

Mae pob agwedd ar ein bywyd bellach yn cynnwys elfen, o leia, o ddylanwad byd gwyddoniaeth a thechnoleg.

'O leia roedd yr achos 'ma'n un haeddiannol, felly dydw i ddim yn cwyno.

Does gen ti mo'r prydar hwnnw, o leia, rwyt ti wedi hel eitha hosan," edliwiodd Gruff.

Anodd iawn a gan nad oes rheolau mi ddewisa'i ddau ddyfyniad o leia.

Gan ddechrau ar Noswyl Nadolig byddai'r dathlu yn parhau am o leia' dair wythnos gan nad oedd yna lawer o waith i'w wneud ar y ffermydd yn ystod troad y flwyddyn, ac roedd pawb yn gallu canolbwyntio ar gael hwyl a sbri.

Ond gan fod cytundeb nawr ar y nifer y clybiau o leia fe allan nhw fwrw 'mlaen i gael y gemau a'r stwythur yn barod ar gyfer y tymor nesaf.

Mae talcen caled gyda ni i fynd - mae yna dime da yn Ewrop ond o leia mae tactege Mark Hughes yn dangos bod rhywfaint o obaith da ni.

Doedd deud hynna ddim yn gneud synnwyr i lawer, fel roedd hi'n sylweddoli, ond roedd o iddi hi, o leia.

Ond roedd pawb yn hael'u canmoliaeth i'r cerflunwyr o Lunden - neb yn meddwl y gellid bod wedi llunio rhywbeth mor fyw o garreg; ac fe ddywedodd y ficer, gan gyfeirio at y llyged treiddgar, y bydde fe'n siŵr y bydde o leia un par o lyged ar agor o'r dechre i'r diwedd yn ystod 'i bregethe fe o hyn allan.