Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

leiafrifol

leiafrifol

Targedau cyrhaeddiad, Datganiadau o Gyrhaeddiad a datganiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol;Y berthynas rhwng iaith leiafrifol â gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus; h.y a ydyw'n cynyddu dibyniaeth yr iaith ar lywodraeth leol a chanolog, ac os ydyw, beth yw'r canlyniadau i awtonomi'r grŵp iaith hwnnw?

Mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, lle mae'n naturiol ac yn ofynnol i bawb ddysgu'r Saesneg sy'n fyd eang ei defnydd, mae'r rheidrwydd i ddysgu a defnyddio iaith carfan leiafrifol o'r boblogaeth ac iaith sydd wedi ei chyfyngu o ran defnydd i dir Cymru yn dibynnu ar wahanol gymhellion.

Yn aml iawn, yr oedd hi'n gyfoethocach ei geirfa a'i llenyddiaeth ac yn cael ei siarad tros rannau helaethach o'r byd na'r iaith leiafrifol.

Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.

Fel Cymro, dwi'n meddwl fy mod i'n dueddol o glywed llais y lleiafrif, yn hytrach na'r mwyafrif; mae gen i fwy o glust i glywed yr ochr leiafrifol, neu'r ochr sy'n colli a'r ochr sy'n cael ei gormesu.

Erbyn hyn y mae'r Gymraeg yn iaith leiafrifol hyd yn oed yn y Fro Gymraeg, yr ardaloedd hynny y'u hystyrir yn gadarnleoedd yr iaith.

Llywodraeth Lafur leiafrifol am yr ail dro.

O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.