Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

leisiau

leisiau

Toc, clywn ragor o leisiau, a sŵn traed, a drysau'n clepian.

Ond cyn i mi guro mi glywn leisiau'n dod drwy ffenestr y parlwr a oedd yn lled agored oherwydd y gwres.

Rhydd i'r deunydd hwn driniaeth y nofelydd: clywn leisiau'r bobl yn siarad; gwelwn gymeriadau unigol yn cerdded ar hyd caeau a heolydd yr ardal; ac felly deallwn hwy yn eu perthynas â'r byd yn ei agweddau cymdeithasol, masnachol, crefyddol.

Ymhen amser clywsom leisiau Mr a Mrs Edmunds, yna daeth mama i'n hystafell i nol rhywbeth o'r bocs mawr.

Tra bu i rai o leisiau amlycaf yr adain chwith megis Gudrun Ensslin ac yn ddiweddarach Ulrike Meinhof droi at drais, yr ateb i eraill oedd ffurfio celloedd unigol lle dôi criw bach at ei gilydd i drafod theori chwyldroadol.

Clywais leisiau yn y cyntedd oddi tanaf, ond ni ddaeth neb i fyny'r grisiau.

Y mae Owen Sheers, o'r Fenni, eisoes wedi'i gydnabod yn un o leisiau mwyaf addawol y mileniwm newydd.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.