Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lem

lem

"Wel, wel," meddwn i wrthyf fy hun, yn cymryd y gadair gyferbyn, "mae rhyw brofedigaeth lem wedi ei gyfarfod." Ofnais y gwaethaf.

Ac fel y gwelsom, byddai'n aml yn anghofio disgyblaeth lem ei glasuriaeth yn ei afiaith wrth drafod llenorion unigol.

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Ymddengys i ni y buasai unrhyw weinidog yn y wlad hon a ymddygai fel y gwnâi Mr Jones yn rhwym o osod ei hun yn agored i ddisgyblaeth lem.

Fe ddaeth ar draws y llwybr cyn bod crafangau y Biwrtianiaeth lem wedi gollwng ei gafael ar y gymdeithas yr oedd hogiau deg oed yn tyfu i fyny ynddi.

Y canlyniad yw nad ydynt yn dweud dim, ac mae hynny'n feirniadaeth lem arnom ni, y bobl normal.

Mae hyn yn peri peth syndod, oherwydd gallasai Parry-Williams fod wedi dod o hyd i lawer o syniadau yng ngwaith yr hen feirdd a oedd yn gyson â'i syniadau ef ei hunan - yr amheuaeth ynglŷn â materion crefyddol neu athronyddol, y weledigaeth lem o flinder y cyflwr dynol, a'r cariad tawer at ddyn a natur heb wneud delfryd rhamantus o'r naill na'r llall.

Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.

Yr oedd ochr lem i'w gymeriad.

Arferai'r mynachod hyn ffurf o ddisgyblaeth lem.