Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

lenwi

lenwi

Cydymdeimlwn a hi, a gadawn iddi hi gael y gair olaf:- "Dywedai bob amser ei fod yn un da i lenwi bwlch.

Ac i lenwi'r ceudod, beth am arddangos anrheg Modryb Matilda, sef 'sgathriad wedi'i fframio i ddathlu agoriad swyddogol Twnnel Conwy.

Dylai pob gwybodaeth ynglyn a sut i lenwi'r cyfrifiad fod yn gwbl ddwyieithog hefyd.

Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.

Argraffwyd holiadur ynglŷn â'r ysgolion Sul yn y ddwy iaith yn y prif gylchgronau a newyddiaduron yng Nghymru, gan of yn i bawb lenwi'r manylion perthnasol yn barod erbyn y deuid heibio i'w casglu.

Ond o'r diwedd, wedi hir ddisgwyl, cyrhaeddodd y môr y castell a gor-lenwi'r ffos mewn amrantiad.

Dywed y gall Eisteddfod y Glowyr fod o gymorth i lenwi'r bwlch.

Doedd dim gwyr bonheddig yn trigo o fewn yr ardal, ac yno doedd neb ond clerigwyr i lenwi'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd.

Roedd yn Llundain, yn loncian yn gynnar fore echdoe, pan ddaeth yr alwad iddo ddod i Gaerdydd i lenwi yn rhaglen neithiwr.

Mae'n wir hefyd ei fod ambell wythnos yn ei chael yn anodd i lenwi'r golofn, a gwelir tuedd iddo "hollti blew ar adegau felly.

Yr un modd, diniweidrwydd a barodd iddo gyhoeddi Y Gymraes (neu 'Merched Cymru', yn ôl y pennawd gwreiddiol), ei lenwi â chynghorion doeth ynglŷn â moes a buchedd yn unol â gwerthoedd y dosbarth canol parchus, a chredu y byddai'n apelio at ferched cyffredin.

Be ydi'r pwynt iddyn nhw berffeithio'r System a chymryd blynyddoedd i ddyfeisio peiriannau sy'n arbed yr holl amser 'da chi'n ei gymryd i lenwi siec, os ydach chi'n mynnu dod â'ch hen fodryb naw-deg-rwbath allan efo chi i ddewis bloda?

Faint ohonom sy'n mynnu dangos ein parch at yr iaith wrth ei siarad yn gyhoeddus, ond sy'n ei hanwybyddu yn y diregl, er enghraifft, wrth ysgrifennu llythyr neu wrth lenwi ffurflen?

Troes yn ôl i siarad efo rhywun a gwnaeth y ffordd y daliodd ei ben am ennyd i lun Sonia Lloyd lenwi meddwl Sioned unwaith eto.

Hwyrach fod y botel ddwr sydd ganddo o'i flaen i lenwi ei wydr yn help.

Dyma wybodaeth y gellir o leiaf ei defnyddio i lenwi'r bylchau yn ei hanes cynnar - hanes sydd, fel y gwelsom, braidd yn annelwig.

Gwnewch lun y fflam gyda'r erfyn llinell afreolaidd a'i lenwi â phatrwm llwyd a defnyddio patrwm llinell gwyn.

Sôn am feddwl gwirion, - ond roedd fy nghylla druan yn gwingo o eisiau rhywbeth cynnes a blasus i'w lenwi.

Does ond eisiau edrych ar hysbysebion yn siopau Caerdydd i weld pa mor hawdd yw mynd i'r gors drwy lenwi'ch pocedi gyda chardiau credyd y naill siop ar ôl y llall.

O ganlyniad, mae'r swyddfa fechan ym Mhenygroes, ger Caernarfon, lle maent wedi ymgartrefu ar ôl cyfnod byr yng Nghaerdydd, yn prysur lenwi gyda gwaith papur a chasetiau.

Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.

Mae'r mawn yn raddol godi tu ucha i'r llyn ac ymhen amser fe allai lenwi'r llyn yn gyfangwbl.

Glyn Davies, Ysgrifennydd Rhanbarth yr Undeb, yn ffonio fin nos eisiau cyfarwyddyd sut i gynghori ffermwyr llaeth i lenwi ffurflenni cais am y cwota ychwanegol.

Y grêd bresennol yw i'r cefnfor hwn ail-lenwi sawl tro yn ystod cyfnod diweddarach yn hanes Mawrth ac fe seilir cred o'r fath ar sylwadaeth o ddyffrynnoedd afonydd ar gledr mynyddoedd tanllyd mwy diweddar.

Ar yr un pryd, fe'n hysbyswyd y gallem lenwi ffurflenni'r "Return" yn Gymraeg tra'u bod nhw yn paratoi ffurflenni

Mae yna brinder pregethwyr heddiw, a thipyn o drafferth yw hi i lenwi'r Suliau mewn llawer eglwys.

Daliwn i ddawnsio, i fwyta bisgedi, i wrando ar gerddoriaeth tra mae dec isaf y llong yr ydym yn eistedd mor gysurus arni'n prysur lenwi â dþr.

Treiddiai arogleuon carthion i lenwi'r neuadd.

Gorfu i bawb ohonom lenwi ffurflen bwysig ymlaen llaw a rhoddi pob math o fanylion amdanom ein hunain.

Efallai mai Casino oedd yr ateb, a chael arian ffyliaid i lenwi coffrau'r wlad.

'Oes, wrth gwrs.' 'Be sy gennych chi yn digwydd bod heb 'i lenwi?' 'Unrhyw un sy'n hwylus ichi.' 'O!

Ymollyngodd i'r gadair freichiau y codawn ohoni, estynnodd ei law yn reddfol am y blwch tybaco ar y pentan yn ei ymyl, a dechreuodd lenwi ei bibell yn araf a phruddaidd.

Meddai ar wybodaeth eang ac ni fyddai byth yn amddifad o ddeunydd i lenwi ambell dudalen wag neu, os byddai angen, ambell rifyn cyfan.

Oes gennych chi rywbeth heb 'i lenwi?' 'Oes.

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.

Gwir iddo lenwi swydd trethwr yn anrhydeddus iawn, ond gwyr y dylaf mai ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng seryddiaeth a Threth y Tlodion, neu Gyngor Plwyf, er i'r seryddwr fod yn ysgrifennydd y Cyngor hwnnw am flynyddoedd.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

Chawson ni fawr o amser i ni'n hunain - roedd pob munud o'r dydd wedi ei lenwi - teithio, dawnsio, teithio...

Mi fu'r rhieni'n protestio yn agoriad swyddogol yr estyniad gan ddweud mai gwastraff arian oedd adeiladu'r estyniad os na fydd yna athrawes i lenwi'r dosbarth.

dywedodd cadeirydd menter a busnes, emrys evans, ei fod yn argyhoeddedig y gall prosiect cyntaf â ganolfan lenwi bwlch mawr ym mywyd addysgol ac economaidd cymru.

Wrth gwrs, y mae rhai unigolion dawnus sydd â'r wybodaeth a'r cefndir angenrheidiol i ddod â gwlad yn hollol ryw i'r myfyrwyr - fel y gall Alex McCowen neu Emlyn Williams lenwi theatr yn y West End a llwyddo, heb gymorth undyn arall, a chall ddibynnu ar eu personoliaeth eu hunain a safon eu deunydd, i hudo cynulleidfa wrth ddarllen o'r Efengyl neu o waith Dickens neu Dylan Thomas.

Lle bo bwlch, dylai'r is-gadeirydd perthnasol ei lenwi.

Yna ewch at y patrwm llenwi a dewiswch batrwm i lenwi'r petryal.

Mae hyn yn helpu i lenwi unrhyw fylchau yn nealltwriaeth dysgwr o'r Gymraeg a hefyd yn atgoffa darllenwr sy'n rhugl o amrywiaeth a chyfoeth ein hiaith.