Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

leuad

leuad

Os arhoswn allan yn ddigon hir i'r llygaid allu addasu i'r tywyllwch, eu os yw'n noson ddi-leuad, fe welwn fod llawer mwy i'w weld yn yr awyr na'r cytserau a'r ser amlwg.

Yr oedd yn noson olau leuad glir o hyd ac felly, er iddo danio'r injan, nid aildaniodd oleuadau'r Land Rover, dim ond troi ei drwyn i lawr y rhiw.

Bu digon o drafod ganddynt ar lên Cymru yn gyffredinol, o Ganu Llywarch Hen i Tywyll Heno, o Drws y Society Profiad i Un Nos Ola Leuad.

Mae'n adrodd yr hanes yn ddirdynnol yn ei nofel Un Nos Ola Leuad.

Mae gwahaniaeth rhwng lleuad a lleuad mewn gogoniant hefyd gyda thros ugain o dermau â lleuad yn rhan ohonyn nhw - yn amrywio o lleuad fain i leuad march melyn a lleuad naw nos ola.

Hi wnaeth ei marc yn Un Nos Ola Leuad.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

'Does dim dwywaith nad ydyw'r llyfr yn taflu llawer o oleuni, mewn sawl lliw, ar y chwedl dan sylw; ac, wrth fynd heibio megis, ar lawero weithiau chwedlonol a ffuglenol eraill, o Lyfr Genesis i Un Nos Ola Leuad.

Wythnos cyn y gêm rown i ac Ann yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug yn gwylio drama ardderchog yn seiliedig ar waith Caradog Prichard 'Un Nos Ola Leuad'.

Datganai'r ci ei nwydau hir yn druenus ar gefn ambell leuad.

Gewin o leuad Awst sŵn tonnau man a chyfeillgarwch Hogia' Pentraeth yn ei gwneud yn fwy na noson hyfryd.

Soniwyd am OM, Un Nos Ola Leuad ac, wrth gwrs, Hedd Wyn.

Cyn tremu'r dyddiad - yn y gaeaf byddai eisteddfod y Babell - roedd eisiau gweld shwd noson fyddai hi, achos roedd rhaid cael noson olau leuad, i oleuo'r wlad i'r bobl fyddai'n gorfod croesi'r mynydd i ddod yno.